Galwad Agored am Goreograffydd - MWYHAU | AMPLIFY 2026
- cerys35
- 7 hours ago
- 7 min read
Awdur: Richard Chappell Dance
Dyddiad cau: 08/12/2025
Fel rhan o’n rhaglen 2026 MWYHAU | AMPLIFY, bydd Richard Chappell Dance (RCD) yn comisiynu dau goreograffydd ar ddechrau neu ganol eu gyrfa yng Nghymru neu o Gymru i greu gwaith ar gyfer perfformio ochr yn ochr â repertoire RCD drwy alwad agored. Gan adeiladu ar ein hen raglen gomisiynu, Supporting Acts, mae MWYHAU | AMPLIFY yn profi ffyrdd newydd o hyrwyddo dawns yng Nghymru, wedi’i gyd-ddylunio gan rwydwaith o gwmnïau, lleoliadau, grwpiau cymunedol ac artistiaid. Gan gysylltu â blaenoriaethau a bwysleisiwyd drwy ymgynghori ag artistiaid a'r adolygiad Dawns yng Nghymru, byddwn yn profi modelau newydd o ran comisiynu, cyfranogiad, twf cynulleidfa a gweithio mewn partneriaeth ar draws gwahanol raddfeydd. Mae MWYHAU | AMPLIFY wedi cael ei siapio i rymuso gwneuthurwyr dawns i barhau â’u dysgu o ran gwerthoedd artistig, datblygiad strategol, cyfiawnder hinsawdd, codi arian, theatr dechnegol a monitro ariannol. Bydd yn uwchraddioarferion pob artist i feddwl am ddatblygiad eu lleisiau artistig yn hyderus mewn ffyrdd hygyrch a chynaliadwy.
Trwy broses gais a chyfweliad, byddwn yn dewis dau artist. Bydd y comisiwn cyntaf ar gyfer Chwefror - Mawrth 2026, drwy breswyliad a pherfformiad yn Theatr Brycheiniog. Cynhelir yr ail gomisiwn ym mis Medi-Hydref 2026, drwy breswyliad yn Theatr Clwyd a pherfformiad yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin. Bydd o leiaf un comisiwn yn canolbwyntio’n benodol ar y defnydd o’r iaith Gymraeg, gyda llenyddiaeth Gymraeg, iaith lafar neu recordiadau Cymraeg yn ofyniad angenrheidiol naill ai ar gyfer y perfformiad neu broses greu y coreograffydd. Bydd pob artist yn arwain dau ddiwrnod o waith cyfranogol yn yr ardaloedd lle bydd eu gwaith yn cael ei gyflwyno. Gweler yr adran ‘Dyddiadau Allweddol’ am ragor o wybodaeth.
Bydd MWYHAU | AMPLIFY yn dyrchafu artistiaid drwy becyn cymorth amrywiol ac eang ac mae RCD yn awyddus i gydweithredu â gwneuthurwyr â lleisiau ac arferion coreograffi uchelgeisiol. Mae’r rhaglen wedi cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Pwy ydym ni’n ei recriwtio ar hyn o bryd?
Dau goreograffydd/artistiaid dawns sy’n byw yng Nghymru, neu’n dod o Gymru.
Beth yw'r meini prawf cymhwysedd i ymgeiswyr?
-Bydd angen i artistiaid ddangos arbenigedd sylweddol a rhagoriaeth artistig yn eu harferion, gan arddangos eu gallu i greu gwaith dylanwadol ar gyfer cynulleidfaoedd. Gellir gwneud hyn o fewn unrhyw genre dawns a gellir arddangos drwy un neu fwy o greadigaethau proffesiynol.
-Mae profiad o greu a chynnal perfformiad cyntaf o un darn o waith o leiaf ar gyfer cyd-destunau theatr yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Rydym yn cydnabod yr heriau rhag cyflawni hyn yn y dirwedd ariannu sydd ohoni. O fewn y ffurflen gais hon, bydd artistiaid yn cael eu hannog i arddangos eu parodrwydd i greu’n annibynnol ar gyfer lleoliad graddfa ganolig mewn achos o’r fath.
Mae MWYHAU | AMPLIFY wedi cael ei gyd-ddylunio gan nifer o sefydliadau diwylliannol a phartneriaethau seiliedig ar le. Disgwylir i ymgeiswyr allu arddangos awch i ymgysylltu â phobl leol yn ystod eu preswyliadau creu. Bydd ymgeiswyr delfrydol yn frwdfrydig dros ddatblygu profiadau unigryw i bobl leol o fewn eu gwaith cyfranogol, yn ogystal â ffyrdd dilys i’r profiadau hyn lywio eu prosesau creu.
Mae MWYHAU | AMPLIFY wedi’i ddylunio i ddyrchafu’r sector dawns annibynnol yng Nghymru. Rhaid i artistiaid fod yn meddu ar bractis annibynnol, llawrydd ac awydd cryf i ddatblygu eu gwaith yng Nghymru. Rhaid i artistiaid fod yn dod o Gymru neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, a rhaid iddynt fod ar ddechrau neu ganol eu gyrfaoedd.
-I wneud y gorau o wasanaethau mentora MWYHAU | AMPLIFY, bydd angen i artistiaid arddangos ymatebolrwydd rhagweithiol i ddysgu o brofiadau’r rhaglen ar gyfer eu gwaith yn y dyfodol.
-Ar gyfer y comisiwn Iaith Gymraeg, rhaid i ymgeiswyr allu siarad Cymraeg yn rhugl.
Sut fydd y comisiwn yn gweithio?
Bydd y Coreograffydd yn cael ffi comisiwn, mentora, cymorth preswyliad a rhaglennu cyfatebol. Bydd Richard Chappell Dance yn cefnogi pob coreograffydd i siapio eu rhaglen, gan gynllunio dau ddiwrnod gweithdy cyfranogol i’w coreograffydd eu cyflwyno ar yr un pryd. Oherwydd yr adnoddau sydd ar gael i RCD ar gyfer pob comisiwn, rydym awyddus i gefnogi coreograffydd/artist dawns sy’n creu gwaith unigol y byddant yn ei berfformio, neu unawd a grëwyd ar ddawnsiwr gwahanol, neu ddeuawd sy’n cynnwys y coreograffydd fel perfformiwr. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein comisiwn yn talu am y gwaith yn ôl ei gost. Os bydd ymgeisydd yn dymuno creu gwaith gyda niferoedd mawr o gydweithredwyr, dylai eu cais gynnwys gwybodaeth am sut y bydd y cyllid cyfatebol hanfodol yn cael ei sicrhau. Noder y bydd pob gwaith yn rhan o fil cymysg a bydd angen iddo bara tua 10-15 munud. Ni ddylai darnau gwaith fod yn gymhleth yn dechnegol, gan mai dim ond awr a phymtheg munud y dylai hyd ymarferion technegol fod ar ddyddiau perfformio.
Dadansoddiad o’r Ffi Comisiwn
Bydd coreograffydd a gomisiynwyd yn cael ffi o £2,570, sy’n cynnwys tâl gwyliau ar gyfraddau’Cydraddoldeb Hawl i Orffwys ac amser teithio y telir amdano. Mae’r ffi hon yn cynnwys costau un artist am un wythnos o greu, dau ddiwrnod o gyflawni cyfranogiad ac un perfformiad. Yn ogystal â’r ffi hon, bydd RCD yn talu’r holl gostau teithio a llety ac yn darparu cymorth technegol cyfatebol ar gyfer perfformiadau.
Dyrennir arian ychwanegol i’r coreograffydd os bydd eu gwaith yn cael ei raglenni mewn perfformiadau RCD ychwanegol ar ôl dyddiad eu perfformiad agoriadol. Rydym yn parhau i geisio cyllid i wireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn, a fydd yn cynnwys ehangiad o ran terfynau amser cyflwyno a ffioedd artistiaid. Byddwn yn diweddaru ymgeiswyr ar ein datblygiadau codi arian drwy gydol y broses ddethol a chyflwyno.
Pa gefnogaeth fydd y Coreograffydd yn ei derbyn?
Bydd y Coreograffydd yn derbyn mentora cyfatebol gan staff Richard Chappell Dance mewn datblygiad partneriaeth, cyfiawnder hinsawdd, codi arian, theatr dechnegol, dramayddiaeth a mentora ariannol. Darperir mentora gan y Cyfarwyddwr Artistig Richard Chapell, yr Ymgynghorydd Cynhyrchu Chris Ricketts, yr Hwylusydd Cyfiawnder Hinsawdd, Marla King, y Rheolwr Cynhyrchu, Charlie Knight a’r Ymgynghorwr Cyfathrebu, Lucy White. Mae’r cymorth hwn wedi’i ddylunio i gael ei gynnig drwy gydol y prosiect, a bydd cymorth etifeddiaeth yn cael ei siapio ar sail myfyrdodau ac anghenion y coreograffydd ar ôl dyddiad y perfformiad.
Allwch chi dalu costau mynediad?
Gallaf, mae arian mynediad ar gael i’w ddefnyddio yn ôl yr angen. Rhowch wybod inni wrth wneud cais am unrhyw ofynion mynediad yr hoffech inni fod yn ymwybodol ohonynt. Ni fydd y wybodaeth hon yn effeithio ar y broses ddethol, ond bydd yn cael ei defnyddio yn ein cynlluniau ar gyfer y prosiect a, phan fo’n berthnasol, yn cael ei hystyried yn ein dulliau o gyfathrebu â chi drwy gydol y broses gais er mwyn gwneud y broses mor hygyrch a chyfleus i chi â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am anghenion a chostau mynediad, mae croeso ichi gysylltu a gallwn drefnu sgwrs.
Ymddygiad
Mae RCD yn ymdrechu i greu amgylcheddau diogel ac adferol i’n hartistiaid, ein cyfranogwyr a’n cynulleidfaoedd. Er mwyn cefnogi’r ymdrechion hyn, rydym wedi datblygu Cod Ymddygiad, sy’n gytundeb ar y cyd rhwng pawb yr ydym yn gweithio â hwy, i sicrhau mynediad, parch, diogelwch a haelioni tuag at bawb. Gallwch ddod o hyd i gopi o’n Cod Ymddygiad YMA. O fewn y broses gais bydd gofyn ichi gadarnhau eich parodrwydd i ddefnyddio ein harferion gwaith.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Cwblhewch ein ffurflen google ar-lein YMA, neu e-bostiwch ni drwy applications@richardchappelldance.co.uk i wneud cais am fersiwn dogfen Word. Hoffem glywed am eich arfer coreograffi a’ch awydd i’w dyfu a’i siapio, ochr yn ochr â gwybodaeth am y gwaith yr ydych yn ei gynnig. Hoffem hefyd weld enghreifftiau o’ch coreograffi yn y gorffennol, neu waith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd os ydych yn gwneud cais i ddatblygu creadigaeth sydd eisoes yn datblygu.
Rydym yn frwdfrydig dros ein rhaglenni’n creu mwy o degwch ar draws y sector dawns, ac yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu artistiaid wrth wneud cais am waith i hwyluso eu harferion. Mae’r broses gais hon wedi cael ei dylunio i beidio â chymryd gormod o amser i ymgeiswyr a gallai eich ysgrifen o fewn y ffurflen amrywio o ambell frawddeg eglur ac uniongyrchol i esboniad hirach. Rydym yn gwybod y gall cyfyngiadau geiriau gyfyngu ar onestrwydd artist weithiau, yn enwedig wrth ddisgrifio eu gwaith, a gall orfodi treulio mwy o amser ar gais na sydd angen. Rydym eisiau clywed am eich gwaith a’ch anghenion yn eglur ac ni fydd hyd yr ateb i bob cwestiwn yn pennu cryfder y cais.
Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno cael y wybodaeth hon mewn fformatau eraill. Os byddai’n well gennych greu cais fideo, anfonwch fideo atom nad yw’n fwy na 5 munud o hyd, yn cynnwys y wybodaeth y gofynnwyd amdani ar y ffurflen.
Cyfweliad
Gwahoddir ymgeiswyr dewisol i gyfweliad byr (30 munud) ar y 10fed Rhagfyr 2025. Ni fydd angen paratoi ar gyfer y cyfweliad hwn a byddwn yn ymdrechu i bennu amser yn ystod oriau gwaith sy’n gyfleus i chi. Bydd y cyfweliad yn cael ei arwain gan y staff RCD a phartneriaid canlynol:
Richard Chappell, Cyfarwyddwr Artistig RCD
Bethan Cooper, Impelo
Chris Ricketts, Ymgynghorydd Annibynnol
Divija Melally, Coreograffydd Annibynnol
Charlie Knight, Rheolwr Cynhyrchu RCD
Ar y ffurflen gais hon, byddwch yn gallu rhoi gwybod inni os nad ydych ar gael ar y dyddiad hwn, ynghyd â’r amseroedd fyddai’n well gennych am gyfweliad. Mae'r cyfweliad hwn yn debygol o gael ei gynnal yn Saesneg, ond os ydych yn dymuno siarad Cymraeg, byddwn yn sicrhau gwasanaethau cyfieithu digonol i ddysgwyr Cymraeg o fewn y panel.
Dyddiadau Allweddol
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 12pm, 8fed Rhagfyr 2025
Diwrnod Cyfweliad Rhestr Fer: 10fed Rhagfyr 2025
Hysbysiad Canlyniad: 22ain Rhagfyr 2025
Comisiwn 1 Preswyliad Theatr Brycheiniog: 16eg-20fed Chwefror 2026
Comisiwn 1 Perfformiad Agoriadol, Theatr Brycheiniog: 19eg Mawrth 2026
Comisiwn 2 Preswyliad Theatr Clwyd: 16eg-20fed Mawrth 2026
Comisiwn 2 Perfformiad Agoriadol Canolfan Celfyddydau Taliesin: 15fed Hydref 2026
Gyda phwy ydw i’n cysylltu os oes gennyf gwestiynau am y prosiect neu fy nghais?
Os oes gennych gwestiynau yn ymwneud â’r prosiect MWYHAU | AMPLIFY neu eich cais, cysylltwch â applications@richardchappelldance.co.uk.
Rydym yn gwmni sy’n dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth hunaniaeth, o ran meddyliau a phrofiadau byw yn ein holl waith. Mae Richard Chappell Dance CIC yn credu mewn siapio profiadau adferol, grymusol ac ysbrydoledig i artistiaid, sy’n gwella cynaliadwyedd gyrfaoedd ac arferion. Rydym yn canolbwyntio’n gryf ar fynediad a bod yn rhan o newid cadarnhaol o fewn y sector dawns. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o liw, artistiaid anabl a niwrowahanol, ynghyd ag artistiaid o bob oed sydd wedi profi anfantais economaidd, yn ddiweddar neu yn y gorffennol.



