top of page

Gweithdy Effaith: Byd Newydd Dewr

  • 1 day ago
  • 1 min read

13/08/26

13.00 - 16.00

g39, Caerdydd

Gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain


Bydd y gweithdy yma yn cyfuno gludwaith, mapio a cherflunio i guradu planedau newydd, a all bod yn dystopaidd neu'n iwtopaidd yn dibynnu ar eich dewis chi.


Gan weithio gyda themâu natur, tirwedd, a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd. Bydd pob planed newydd yn cael ei chreu o lefydd, gwledydd, a thiroedd sydd o ddiddordeb, gan greu tirwedd unigol ei hun i’r blaned. Bydd hyn yn agor lan y posibilrwydd o fyd sy’n adlewyrchu’r anghenion, dymuniadau a lles pobl a’r byd i gyd.


Bydd hyn yn cynnwys dewis o amrywiaeth o ddeunyddiau mapio gwahanol, lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, torri’r papur a chyfuno’r tirweddau ar glôb bach. Gan orchuddio’r hen arwyneb gyda thirwedd newydd a breuddwyd newydd.


Bydd pob cyfranogwr yn cael planed newydd i gymryd i ffwrdd gyda nhw gan roi’r amser i fyfyrio ar sut byddai’r blaned newydd hon yn datblygu gydag amser.


Mae gwaith Grant “Share Space” yn rhan o arddangosfa Effaith ac yn arddangos ymarfer Grant o fapio/gludwaith gwleidyddol sy’n dychmygu byd ble mae lle i gyd yn cael ei rhannu’n gyfartal, gan dorri’r hierarchaeth sy’n dominyddu ein tirweddau a rhyddfreiniau.


Mae Grant yn ymarferydd dan arweiniad anabledd a gall addasu'r gweithdy i ddiwallu amrywiaeth o anghenion mynediad. Darperir cyfarwyddiadau ar bapur yn ogystal ag ar lafar. Gellir darparu'r cyfarwyddiadau hyn ymlaen llaw - (cysylltwch â: post@disabilityarts.cymru). Os hoffech drafod anghenion mynediad ychwanegol, cysylltwch â post@disabilityarts.cymru)

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page