top of page

Mae Artes Mundi yn Cyflogi: Cynhyrchydd Ymgysylltu

  • cerys35
  • Sep 1, 2025
  • 2 min read

Awdur: Artes Mundi


  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 16 Medi 2025 am 5pm

  • Cynhelir cyfweliadau: Wythnos yn dechrau dydd Llun 22 Medi

  • Cyfarfod cychwynnol o Gynhyrchwyr Ymgysylltiedig: Wythnos olaf mis Medi / wythnos gyntaf mis Hydref (i'w gadarnhau)


Bydd pob un o’r chwe Chynhyrchydd Ymgysylltu yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chanlyniadau fel y gwelir isod. Fel ffordd o ganfod a strwythuro’r agwedd hon ar ein rhaglenni cyhoeddus cyffredinol, bydd pob Cynhyrchydd Ymgysylltu’n cael ei neilltuo i gynnal ymchwil manwl i un o artistiaid Artes Mundi 11 sydd ar y rhestr fer. Fel rhwydwaith, ac ar y cyd â gweddill tȋm Artes Mundi, byddwch yn canfod elfennau cyffredin a chysylltiadau thematig rhwng gwaith a dulliau’r artistiaid ar y rhestr fer, gan greu cronfa hael ac eang o adnoddau a gweithgareddau creadigol ar gyfer ein cynulleidfaoedd.


Bydd y Cynhyrchwyr Ymgysylltu’n frwdfrydig am ddiwylliant a syniadaeth ysbrydoledig, cynhwysol a chreadigol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y rheiny sydd ag ymagwedd ddychmygus a hyblyg tuag at gyrraedd canlyniadau ardderchog. Mae’r rôl yn gofyn am y gallu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chyfleu syniadau cymhleth yn glir drwy sgwrsio a chreu.


Does dim rhaid i chi fod ag unrhyw gymwysterau neu brofiad gwaith penodol i fod yn gymwys ar gyfer y rôl yma. Fodd bynnag, yn sgil y cyfrifoldebau a’r tasgau sydd i’w gwneud, byddem yn hoffi clywed gan y sawl sydd â phrofiad drwy addysg, cyflogaeth flaenorol neu brofiadau bywyd penodol megis artistiaid, ymchwilwyr neu ymarferwyr creadigol o bob disgyblaeth, profiad neu lefel gyrfa.


Telerau’r Swydd


Cynigir y swydd hon fel contract 6 mis ar sail llawrydd. Mae ffi gynhwysol o £2,500 ar gael am 10 diwrnod/75 awr o waith, wedi’i rannu ar draws 20 wythnos o Fedi 2025 – Chwefror 2026. Bydd amser a dyddiadau talu cyflog yn cael eu hamserlenni a’u cytuno unwaith y byddwch yn y swydd. Mae arian ar gael ar gyfer hyfforddiant i ysgrifennu a chyflwyno teithiau disgrifiadau sain a hyfforddiant ar gyfer ymwybyddiaeth o anabledd ac ati yn ôl yr angen. Gofynnir i ddeiliad y swydd gyflwyno ac ymgymryd â gwaith ar rai nosweithiau a phenwythnosau. Rhoddir rhybudd priodol.


Mae’r swydd hon yn cynnwys gweithio gyda phlant ac oedolion bregus. Gall eich cynnig cyflogaeth fod yn ddarostyngedig i ddatgelu boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Gallai methiant i ddatgelu gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag unrhyw euogfarnau arwain at dynnu’n ôl unrhyw gynnig cyflogaeth.


Ceir gwybodaeth lawn am y rôl yn y Pecyn Gwybodaeth.


Sut i Wneud Cais

 

Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl yma drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a’u cyflwyno drwy e-bost at opportunities@artesmundi.org gan nodi Cynhyrchydd Ymgysylltu yn y llinell bwnc.

 

 

 

 

 

 

If you have questions about the role or the application process, please don’t hesitate to contact us at opportunities@artesmundi.org 


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page