top of page

Natur a Mynediad: Anabledd, Natur, Newid Hinsawdd a Chreadigrwydd

7 days ago
2 min read

Ymunwch â Fforwm Ar-lein Natur a Mynediad Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) ar 26 Tachwedd at 1.30pm (Zoom), gyda chyfranogwyr Catherine Taylor Parry, Aidan Moesby, DeaNelia Lupton, a Kirsty Lindsey (Newport Wetlands). Bydd y drafodaeth ddiddorol yma yn archwilio cysylltiadau rhwng anabledd, natur, newid hinsawdd, a chreadigrwydd, gan roi cyfle i bobl anabl rhannu eu profiadau o fynediad i leoliadau naturiol fel Gwylptir Casnewydd a safleoedd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Byddwn ni’n trafod gyda’n gilydd am yr atalfeydd a’r llonder o gysylltu â natur, edrych ar sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar gymunedau anabl, ac archwilio sut gall celf ysbrydoli ffyrdd newydd o feddwl am gyfiawnder hinsawdd a dyfodol mwy hygyrch. Dewch ymlaen i rannu eich llais, syniadau, a gobaith am newid.


Wedi’i chynnal gan Celfyddydau Anabledd Cymru ar Zoom

Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynau ar gael

26 Tachwedd 2026

1:30 - 2:30 yp


Mae'r digwyddiad yma yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau Cyfiawnder Anabledd 2026 gan Celfyddydau Anabledd Cymru.

Wrth edrych ymlaen i Ddiwrnod Rhyngwladol pobl Anabl, mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn cynnal 4 digwyddiad Cyfiawnder Anabledd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. O dydd Iau 12 Tachwedd, bydd digwyddiadau wythnosol yn cael ei chynnal ar Zoom cyn terfynu gyda digwyddiad yn Chapter ar Ddiwrnod Rhynwladol Pobl Anabl, dydd Iau 3 Rhagfyr:


Cyfranogwyr: Bethany Handley, Cerys Knighton, Lleucu Non, Elen Wyn, Delyth Jewell AS


Cyfranogwyr: Grace Quantock, Yanti Hashim, Mars Saude, Heledd Bianchi


Cyfranogwyr: Catherine Taylor Parry, Aidan Moesby, DeaNelia Lupton, Kirsty Lindsey (Newport Wetlands)


Cyfranogwyr: Athro David Turner, Delphi Campbell, James Patrick Cox


Mae’r digwyddiadau am ddim ac yn agored i bawb. Ymunwch a ni i rannu eich profiadau, ymatebion creadigol, a gobaith am newid.


Iaith Arwyddion Prydain a Chapsiynau ar gael. Cysylltwch â post@disabilityarts.cymru gyda unrhyw cwestiynau ac anghenion mynediad.


Diolch i Cyngor Celfyddydau Cymru ac ein partner digidol Am a fydd yn rhannu recordiadau o’r digwyddiadau ar ei gwefan ambobdim.cymru

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page