top of page

Gwrthsafiad Celfyddydol: Menywod, Creadigrwydd a Herio Rhywioldeb ym maes Gofal Iechyd

7 days ago
2 min read

Ymunwch â DAC dros Zoom ar 12 Tachwedd ar gyfer dangosiad celfyddydol a thrafodaeth radical ymysg artistiaid a/Anabl arobryn o Gymru: yr awdur Bethany Handley, yr artist gweledol Cerys Knighton, yr animeiddiwr Lleucu Non a'r gantores Elen Wyn. Mi fydd Delyth Jewell AS (Y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod) hefyd yn cyfrannu.


Byddwn yn archwilio sut mae menywod a/Anabl yn defnyddio’u hymarferion creadigol i herio ablaeth ar sail rhywedd a rhwystrau strwythurol ym maes gofal iechyd, gan gyfuno trafodaeth feirniadol gyda mynegiant artistig byw trwy ddarlleniadau, perfformiadau ac arddangosfeydd celf a ffilm.


Wedi’i chynnal gan Celfyddydau Anabledd Cymru ar Zoom

Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynau ar gael

12 Tachwedd 2026

1:30 - 2:30 yp



Mae'r digwyddiad yma yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau Cyfiawnder Anabledd 2026 gan Celfyddydau Anabledd Cymru.


Wrth edrych ymlaen i Ddiwrnod Rhyngwladol pobl Anabl, mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn cynnal 4 digwyddiad Cyfiawnder Anabledd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. O dydd Iau 12 Tachwedd, bydd digwyddiadau wythnosol yn cael ei chynnal ar Zoom cyn terfynu gyda digwyddiad yn Chapter ar Ddiwrnod Rhynwladol Pobl Anabl, dydd Iau 3 Rhagfyr:


Cyfranogwyr: Bethany Handley, Cerys Knighton, Lleucu Non, Elen Wyn, Delyth Jewell AS


Cyfranogwyr: Grace Quantock, Yanti Hashim, Mars Saude, Heledd Bianchi


Cyfranogwyr: Catherine Taylor Parry, Aidan Moesby, DeaNelia Lupton, Kirsty Lindsey (Newport Wetlands)


Cyfranogwyr: Athro David Turner, Delphi Campbell, James Patrick Cox


Mae’r digwyddiadau am ddim ac yn agored i bawb. Ymunwch a ni i rannu eich profiadau, ymatebion creadigol, a gobaith am newid.


Iaith Arwyddion Prydain a Chapsiynau ar gael. Cysylltwch â post@disabilityarts.cymru gyda unrhyw cwestiynau ac anghenion mynediad.


Diolch i Cyngor Celfyddydau Cymru ac ein partner digidol Am a fydd yn rhannu recordiadau o’r digwyddiadau ar ei gwefan ambobdim.cymru

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page