top of page

Sut gall y celfyddydau helpu pobl anabl i gymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd?

25 minutes ago
1 min read

Mae Joshua Jones, sy'n arwain Prosiect Egin ar ran Celfyddydau Anabledd Cymru, wedi ysgrifennu erthygl ar gyfer Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru:


"Mae’n ffaith hysbys bod newid hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl. Rhwng meddyginiaethau sy’n effeithio ar allu’r corff i reoli ei dymheredd, tywydd eithafol sy’n rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol sydd eisoes dan straen, a’r effaith y mae tonnau gwres yn ei chael ar y corff a chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, gall pobl anabl deimlo’n fregus, wedi’u hanwybyddu ac yn ynysig.


Yn fy rôl yn arwain Prosiect Egin ar ran Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC), rwy’n canolbwyntio ar sut y gallwn gynnig gwell cefnogaeth i bobl anabl yn eu cymunedau. Mae elusennau gwych yng Nghymru (fel Anabledd Cymru) sy’n brwydro dros hawliau pobl anabl ym mholisïau’r llywodraeth, neu sy’n gweithio gyda grwpiau penodol, fel Our Visual World a Sight Life, sy’n cefnogi pobl F/fyddar a phobl ddall neu â nam ar eu golwg yng Nghymru, yn y drefn honno. Prif ffocws CAC yw meithrin talent greadigol pobl anabl a phobl F/fyddar, gan helpu ein cymuned o artistiaid anabl i greu a rhannu eu gwaith. Wrth wraidd popeth a wnawn mae’r gred y dylai celfyddydau anabledd gael cydnabyddiaeth gyfartal yn y diwydiant, ac y dylai artistiaid anabl allu manteisio ar gyfleoedd heb wynebu rhwystrau."


Gallwch darllen yr erthygl yma.


Cymerwch bum munud i lenwi’r harolwg am gymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Gallwch ei lenwi yn Gymraeg neu yn Saesneg, drwy destun, sain neu fideo.


Mae Joshua Jones (ef/ei) yn awdur ac yn artist anabl, niwro-wahanol o Lanelli, De Cymru. Gallwch ei dilyn ar Substack.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page