Nodwedd Catherine Taylor Parry yn Shire Magazine
- 3 days ago
- 1 min read
Llongyfarchiadau i artist DAC Catherine Taylor Parry am ei nodwedd yn argraffiad Shire Magazine: Gogledd Cymru!
Gallwch ddarllen y nodwedd yma: https://issuu.com/danbromage/docs/shire_magazine_may-june_2026_north_wales/98
Derbyniodd Catherine gomisiwn Corsydd Calon Môn x Celfyddydau Anabledd Cymru fel rhan o'n Harddangosfa Deithiol Genedlaethol: Effaith. Mae'r comisiwn yma yn tynnu sylw at unigrywiaeth a bregusrwydd corsydd Ynys Môn. Wedi'i ariannu drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy'n ceisio sicrhau dyfodol Corsydd Ynys Môn wrth ddathlu eu diwylliant a'u treftadaeth doreithiog. Mae'r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl, i natur, ac i ymladd yn erbyn newid hinsawdd. Wnaeth Catherine greu gwaith sy'n ymateb i toreithrwydd yr amgylchedd ac yn myfyrio ar y gors fel cofnod naturiol o amser.
Mae Effaith yn cael ei harddangos ar hyn o bryd at Tŷ Pawb, Wrecsam. Mwy yma.




