top of page

Offeryniaeth Gynhwysol Rhan 4

Mae aelod DAC Cheryl Beer wedi postio Rhan 4, y rhan olaf mewn cyfres o bedair blog dwyieithog am Offeryniaeth Gynhwysol. Gwnaeth Cheryl gais i Gamau Creadigol i archwilio’r posibiliadau ar gyfer ffordd gynhwysol o drefnu Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, Cân y Coed.




​Wel, mae'r broses hon o ddatblygiad proffesiynol wedi bod yn dipyn o daith! Dyna be' sy'n digwydd pan gewch le i archwilio a thyfu, dydych chi fyth yn gwbl sicr i ble bydd hyn yn eich arwain.


Neithiwr, cawsom ein sesiwn olaf gyda'r Pumawd Offeryniaeth Gynhwysol, gan deithio drwy'r gwynt a'r glaw stormus i People Speak Up sydd wedi bod mor garedig a chefnogi fy ymchwil Camau Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy ddarparu eu capel hardd er ein defnydd, ynghyd â staff i drefnu'r lle i ni ‒ a hyd yn oed lluniaeth.


Yn gyntaf, mae'n bwysig dweud fy mod wedi dysgu'r union beth roeddwn yn ei ddisgwyl, sut i feithrin colli fy nghlyw, tinitws a hyperacusis yn llwyr wrth sgorio a threfnu fy nghyfansoddiadau, ond y syndod yw sut mae hynny wedi treiddio i bob agwedd ar fy ymarfer creadigol.


Ar ôl y camau cychwynnol yn gweithio gyda Delyth ar drefniant newydd o Gylch Bywyd Mesen, sylweddolais, pe byddwn yn gallu gwrando ar recorders bas heb i hyn fod yn boenus i fy hyperacusis, yna efallai gallwn chwarae’r recorder fy hunan. Mae hyn wedi arwain at sesiwn ymarfer ddyddiol lawen, yn ailddysgu'r offeryn cyntaf un a gefais, ond y tro hwn, un tenor ac nid desgant.


​Mae bron yn amhosibl disgrifio cymaint o lawenydd rwy'n ei gael wrth chwarae offeryn eto. Mae'n gymhariaeth ddiymhongar â'm bywyd fel canwr/chyfansoddwr caneuon, yn cyfansoddi, trefnu a recordio albymau, ond mae hefyd yn rhywbeth dyfnach o lawer na'r daith honno. Rwy'n ail-ymgysylltu â Hunan sydd wedi bod ar goll ers i mi golli fy nghlyw. Pan fyddaf yn chwarae, rwy'n teimlo fel pe bawn yn 5 mlwydd oed eto, yn y camau cyntaf o syrthio mewn cariad â pherfformio cherddoriaeth. O ganlyniad, rwyf wedi cynnwys tenor ym mhob rhan o'm gwaith bellach ‒ er enghraifft, yn fy Llwybr Ymchwil Artist Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol a nawr, mewn comisiwn gyda Natur am Byth lle rydw i, er enghraifft, wedi nodiannu darlleniadau sonar o ystlumod, ac wedi perfformio a recordio'r gerddoriaeth ddalen fy hunan fel sylfaen ar gyfer hwiangerdd ynglŷn â'r ystlum trwyn pedol lleiaf sydd mewn perygl. Pwy yn y byd fyddai wedi rhagweld y canlyniad hwn!


Mae Delyth a minnau wedi datblygu ffordd hyfryd o gydweithio. Yn wir, mae hi'n rhan o'm prosiect Natur am Byth, ond y tro hwn fel arweinydd côr. Diolch yn fawr Delyth.


Ac mae hyn yn fy arwain yn hwylus at Sibelius. Wrth gydweithio gyda Delyth ar y gweithle cyfansoddi hwn, cefais yr hyder i weithio’n gwbl annibynnol ar gyfansoddiadau newydd ‒ does dim rhai i mi alw ar gerddorion sesiwn llawrydd bellach. Rwy'n gallu cyfansoddi, nodiannu, chwarae a recordio fy hunan.


​Ac felly, wrth i mi fyfyrio ar beth ddaw nesaf, dwi'n teimlo mod i bron iawn wedi tyfu allan o'm meddyliau gwreiddiol o ran i ble bydd fy ngwaith yn mynd nesaf. Roeddwn yn ystyried estyn allan yn gyffredinol, ond gan fy mod bellach wedi datblygu'r sgiliau, rydw i eisiau canolbwyntio’n ddyfnach ar fod yn rhan o'r ymyriadau cadarnhaol dros gyfiawnder hinsawdd, fel y bydd fy ngwaith yn rhan o'r newid, ac nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o ecolegau bregus, drwy fod yn rhan o'r gweithredu i’w diogelu. Ond cewch wybod mwy am hyn ar ôl iddo droi ac ymffurfio yn fy meddwl, oherwydd, ar hyn o bryd, dw i'n dal i orfoleddu ar ôl sesiwn olaf neithiwr.


Diolch o galon i Linda Healy, Colin Fielder, Tim Soar, Bill a Llewellyn Gannon, am eu hamynedd yn anad dim wrth i ni drefnu ac aildrefnu'r darn i osgoi sbigynnau poenus ‒ a olygai bod rhaid iddynt ddysgu ac ail-ddysgu.


Diolch yn fawr i People Speak Up a Fusion Sir Gâr am ariannu cyfieithu fy mlogiau i'r Gymraeg. A diolch yn fawr hefyd i Dŷ Cerdd a Chelfyddydau Anabledd Cymru am ddosbarthu fy mlogiau Offeryniaeth Gynhwysol ledled Cymru.


Rwy'n dra diolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu fy natblygiad proffesiynol yn y ffordd hon a'm helpu i ffeindio a rhannu llwybrau newydd.


Wrth i ni symud drwy fywyd, gall ein profiad byw newid yn ddirybudd a gobeithiaf y bydd rhannu fy stori gyda chi yn rhoi'r dewrder i rywun sydd ei angen i roi cynnig ar ffordd arall.


Diolch yn fawr am ddangos diddordeb yn fy ngwaith. Os hoffech gadw mewn cysylltiad, mae croeso i chi fy ychwanegu fel ffrind ar FACEBOOK.

bottom of page