top of page

Panel Ymgynghorol Am

  • cerys35
  • Jul 30
  • 1 min read

Awdur: Am


Mae Am yn chwilio am aelodau ar gyfer panel ymgynghorol newydd sy’n canolbwyntio ar wneud gwefan Am yn fwy hygyrch a gwella cynrychiolaeth unigolion Byddar, anabl, a/neu niwroamrywiol yn y celfyddydau.


Bydd y panel yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn trwy Zoom, a gynhelir yn Saesneg, gydag opsiynau ar gyfer cefnogaeth ychwanegol yn ystod cyfarfodydd.


Cadarnheir dyddiad y panel ymgynghorol cyntaf yn agosach at yr amser yn seiliedig ar argaeledd cyfranogwyr. Gan fod y panel ymgynghorol hwn yn canolbwyntio ar brofiadau pobl Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol sy’n ymwneud â’r celfyddydau’n ddigidol, rhaid i gyfranogwyr fod yn Fyddar, yn anabl a/neu’n niwroamrywiol.


Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r panel ymgynghorol, llenwch y ffurflen yma! Byddwn mewn cysylltiad ar ôl y dyddiad cau.


Cyfle â Thâl – £50 y sesiwn

Dyddiad Cau – 20/08/2025

Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth i helpu Am wella.


Mae’r ffurflen gais yn cymryd tua 3 munud i’w llenwi. Os hoffech chi gyflwyno’r wybodaeth hon mewn fformat arall, anfonwch e-bost at mari@pyst.net. Cefnogir y panel ymgynghorol hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page