Dyddiad: Dydd Sadwrn 7 Medi 2024
Amseroedd: 11:15 yb a 12:30 yp
Hyd: 1 awr
Dehonglwyr IAP: Emily Rose a Alex Miller o Our Visual World
Mae mynediad am ddim, ond mae’n rhaid archebu. Archebwch le yma: https://www.chapter.org/cy/whats-on/bsl-tour-of-abi-palmer-slime-mother-exhibition#showings
Mae arddangosfa Abi yn creu bydysawd amgen, lle caiff gwlithod eu haddoli. Drwy lysnafedd, cwiardeb, a defodau paru erotig ac estron, mae Slime Mother yn eich gwahodd chi i gofleidio dieithrwch y wlithen.
Bydd Emily Rose ac Alex Miller o Our Visual World yn arwain dwy daith Iaith Arwyddion Prydain o gwmpas ein harddangosfa gelf ac yn mynd â chi i fyd llawn llysnafedd! Byddwch yn gadael gyda pharch newydd at wlithod a llysnafedd.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffilm, cerflunwaith, a disgo gwlithaidd! Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin ar gael ar gyfer y ffilm, sy’n chwarae bob 15, 30, a 45 munud wedi’r awr (mae’n para 7 munud i gyd). Mae disgrifiadau sain i’r ffilm hefyd ar yr awr, bob awr.
Os byddwch chi wedi methu’r Teithiau Iaith Arwyddion Prydain, galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am a 5pm. Mae mynediad am ddim.
Mwy am arddangosfa unigol gyntaf Abi Palmer yma: https://www.chapter.org/cy/whats-on/abi-palmer-slime-mother
Comments