The Writers Lab
- cerys35
- 2 days ago
- 1 min read
Author: The Writers Lab
Mae The Writers Lab UK & Europe yn ôl! Mae ceisiadau ar agor tan Ebrill 30ain - ewch i Coverfly i ymgeisio.
Gyda chefnogaeth Meryl Streep, Nicole Kidman a Natalie Portman, The Writers Lab yw’r unig raglen yn y byd sydd wedi’i neilltuo’n benodol i ddatblygu sgriptiau a gyrfa i fenywod ac awduron anneuaidd 40+.
Bydd cyflwyniadau gan ddinasyddion neu drigolion Cymru yn cael eu hystyried.
Mae TWL yn chwilio am brosiectau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y rhanbarth hwn, gan gynnwys amrywiaeth ieithyddol. Tra bod yn rhaid cyflwyno sgriptiau yn Saesneg, mae gan TWL ddiddordeb mewn sgriptiau sydd wedi'u cyfieithu, neu brosiectau a allai gael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar ddiwedd y rhaglen. Bydd awduron dethol yn cael y cyfle i weithio gyda chyfieithwyr a ddarperir gan TWL.
Dyddiad cau: Ebril 30ain
Am fwy o wybodaeth, ewch i twlstories.org