25 - 31 Ionawr, 7.30yh yn Theatr Sherman, Caerdydd
Tocynnau: https://www.shermantheatre.co.uk/event/byth-bythoedd-amen/
Chapsiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg
Dydd Sadwrn 8 Chwefror, 7.30yh yn Stiwdio, Pontio Bangor
Tocynnau: https://shorturl.at/f2dQo
Bydd Taith Gyffwrdd cyn y sioe am 6.30pm gan Eilir Gwyn. Am ddim ond bydd angen tocyn
Sain Ddisgrifiad Cymraeg (10 dyfais ar gael)
Capsiynau Cymraeg a Saesneg
“Ma bywyd yn brutal. Ond mae’n gallu bod yn biwtifful hefyd.”
Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.
Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.
Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…
Mae Lottie ar noson allan sy’n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i’r noson hwyrhau a Lottie’n ymgolli yn ei hatgofion, mae’r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae’n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!
Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg – hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.
Age Guidance: 16+
Contains strong language and adult themes