top of page

Theatr y Sherman: Hwylusydd Cynorthwyol & Prif Hwylusydd

  • Aug 12
  • 3 min read

Awdur: Theatr y Sherman


Hwylusydd Cynorthwyol:

£12.71 yr awr

LLAWRYDD


Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Hwylusydd Cynorthwyol i helpu cynnal ein sesiynau Sherman Sherbets. Bydd y rôl yn gweithio’n gyfagos â Phrif Hwylusydd y Sherbets, a fydd yn cynllunio ac yn arwain ar gynhaliaeth y sesiynau, yn ogystal â chydweithwyr yn yr Adran Ymgysylltu Creadigol, i sicrhau fod y rhaglen wedi’i gynnal yn effeithiol. Mae’r rhaglen yn cynnwys gweithdai wythnosol a pherfformiadau rheolaidd ble gall aelodau berfformio o flaen ffrindiau a theulu. Cynhelir sesiynau bob dydd Sadwrn yn ystod tymhorau ysgol. Mae ein mintai Sherbets yn cynnwys dau grŵp: Sherbets 1 (4 – 6 oed) sy’n cyfarfod o 10yb – 11yb, a Sherbets 2 (6 – 8 oed) sy’n cyfarfod o 11yb – 12.30yp.


Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae hi ar agor i ymgeiswyr sy’n 18 oed neu’n hŷn.


Dyddiad cau: 9yb, dydd Llun 24 Awst 2026

Cyfweliadau: dydd Iau 27 Awst 2026

Dyddiad dechrau: Medi 2026


Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.


Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.


Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael: https://www.shermantheatre.co.uk/whats-on/jobs/?lang=cy.


Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Iawnder, Amrywiaeth a Chynhwysiad, ac yn Elusen Gofrestredig.


Dyddiad cau: 24/08/2026


--


Prif Hwylusydd:

£30 yr awr

LLAWRYDD


Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Prif Hwylusydd i gynllunio a chynnal ein rhaglen Sherman Sherbets, a fydd yn darparu sesiynau dychmygol a diddorol i blant ifanc i’w helpu i ddatblygu hyder, i ryngweithio ac i adeiladu sgiliau adrodd straeon.


Bydd y swydd yn gweithio'n agos gyda Hwylusydd Cynorthwyol y Sherbets, yn ogystal â chydweithwyr yn yr Adran Ymgysylltu Creadigol. Bydd gweithgareddau’n cynnwys gweithdai wythnosol a pherfformiadau rheolaidd ble gall aelodau berfformio o flaen ffrindiau a theulu. Cynhelir sesiynau bob dydd Sadwrn yn ystod tymhorau ysgol. Mae ein mintai Sherbets yn cynnwys dau grŵp: Sherbets 1 (4 – 6 oed) sy’n cyfarfod o 10yb – 11yb, a Sherbets 2 (6 – 8 oed) sy’n cyfarfod o 11yb – 12.30yp.


Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae hi ar agor i ymgeiswyr sy’n 18 oed neu’n hŷn.


Dyddiad cau: 9yb, dydd Llun 24 Awst 2026


Cyfweliadau: dydd Iau 27 Awst 2026


Dyddiad dechrau: Medi 2026


Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.


Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.


Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn https://www.shermantheatre.co.uk/whats-on/jobs/?lang=cy


Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Iawnder, Amrywiaeth a Chynhwysiad, ac yn Elusen Gofrestredig.


Dyddiad cau: 24/08/2026

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page