Arddangosfa Agored Tŷ Pawb 2026
- 7 days ago
- 1 min read
Awdur: Tŷ Pawb
Mae ein harddangosfa alwad agored dwyflynyddol yn dychwelyd ar gyfer ei pumed rhifyn. Roedd rhifyn 2024 yn cynnwys dros 100 o weithiau celf, yn dilyn ymateb record i’n galwad agored, gyda bron i 450 o artistiaid yn cyflwyno gweithiau.
Gwahoddir artistiaid i gyflwyno hyd at dri gwaith celf i’w hystyried ar gyfer eu harddangos yn ein harddangosfa agored.
Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i bob artist proffesiynol ac amatur arddangos eu gwaith ochr yn ochr yn ein horiel arobryn, a chael cyfle i ennill un o dair gwobr eleni.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno:
4/10/26
11.59yh
Dyddiadau’r arddangosfa:
14/11/26 – 27/2/27
Gwobrau
Gwobr y Beirniaid: £1000
Gwobr y Cyhoedd: £500
Gwobr y Masnachwr: £500
Ffi ymgeisio
£18 am hyd at 3 gwaith celf
£12 ar gyfer prisiau gostyngol



