top of page

Ymweliad - Papertrail

  • cerys35
  • Aug 12
  • 1 min read

Awdur: Papertrail


Ym mis Hydref 2024, rhannon ni ein cynhyrchiad diweddaraf am y tro cyntaf, A Visit gan Siân Owen. Roedd ymateb y cynulleidfaoedd yn arbennig o gadarnhaol. ‘Dyn ni’n bwriadu teithio’r sioe hynod hon yn 2025.


Mae A Visit yn ymwneud â throsedd a chyfiawnder ac am bwy sydd i ofalu am y plant pan gaiff mam ei hanfon i garchar?


Mae Angharad, sy’n bymtheg mlwydd oed, yn ymweld â’i mam, Ffion, mewn carchar ymhell o’u cartref yn Aberdâr. Caiff hi ei chymryd yno gan ei modryb, Carys, sydd wedi bod yn gwneud ei gorau i ofalu amdani, ond ‘dyw gofalu am ferch yn ei harddegau ddim yn hawdd. A doedd Anti Carys erioed wedi bwriadu bod yn fam. Pwy felly sy’n mynd i ofalu am Angharad?


Mae Bridget Keehan a Siân Owen o Papertrail wedi creu darn o theatr afaelgar, a gafodd ei ysbrydoli gan straeon bywyd go iawn y menywod a’r bobl ifanc y buon nhw’n gweithio gyda.



Dyddiadau a Thocynnau:


7 & 8 Hydref | October

Theatr y Sherman Theatre,

Caerdydd | Cardiff

029 2064 6900

info@shermantheatre.co.uk


15 Hydref | October

Swansea Grand Theatre

01792 475715

BoxOffice@swansea.gov.uk


17 Hydref | October

Soar Theatre, Merthyr Tydfil

01685722176


24 Hydref | October

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre

01970 62 32 32

 
 

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page