Adnewyddu Aelodaeth
- cerys35
- May 28
- 1 min read
Updated: 2 days ago
Diolch i bawb sydd wedi adnewyddu ei aelodaeth DAC! Os ydych chi wedi adnewyddu yn barod does dim angen gwneud unrhyw beth arall.
Os nad ydych wedi adnewyddu gallwch llenwi'r ffurflen yma: https://airtable.com/appSGLvCXbkA8cEqK/shrjc86pWfUvoIzox
Rydym wedi cyrraedd yr adeg o'r flwyddyn pan rydym yn ofyn i chi adnewyddu eich aelodaeth DAC.
Rydym yn adnewyddu aelodaeth yn flynyddol i barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU [GDPR] ac i wneud yn siŵr bod ein rhestr o aelodau yn gyfredol.
Os nad ydych chi'n adnewyddu drwy lenwi'r ffurflen aelodaeth, bydd rhaid i ni eich diddymu fel aelod DAC ac ni fyddwch yn elwa mwyach o'n cylchlythyrau, digwyddiadau a chyfleoedd.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn adnewyddu trwy lenwi'r ffurflen aelodaeth hon: https://airtable.com/appSGLvCXbkA8cEqK/shrjc86pWfUvoIzox
Gyda chyllid aml-flwyddyn llwyddiannus gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd 2025/26 yn cynnig cyfleoedd cyffrous iawn i artistiaid ym mhob ffurf gelfyddydol,gan gynnwys mwy o gomisiynau, ein digwyddiadau Cwrdd misol drwy gydol y flwyddyn, a phrosiectau newydd cyffrous bydd yn cael ei chyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn 2025/26!
-Tîm DAC x