AmCam 2: Galwad agored am 4 ffilm ddogfen am greadigrwydd cymunedol yng Nghymru!
- cerys35
- Jul 9
- 1 min read
Awdur: Am
Yn dilyn llwyddiant AmCam, gŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed Am, rydym yn hynod falch o gyhoeddi ail rownd o gyllid tuag at greu pedair rhaglen ddogfen fer arall!
Lansiodd Am, cartref digidol diwylliant Cymru, AmCam yn ddiweddar i ddathlu ein pumed pen-blwydd. Dewiswyd pedair ffilm sy’n dogfennu creadigrwydd mewn cymunedau ledled Cymru o alwad hynod lwyddiannus; yn amrywio o bortread o gymuned o artistiaid sy’n gweithio yng Nghwmllynfell i archwiliad o felin gwaith coed greadigol yn y Rhyl sy’n cynnig cyfleoedd i ieuenctid lleol sydd wedi’u hymylu. Gallwch wylio’r ffilmiau AmCam cyntaf yma.
Mae Am yn edrych i gomisiynu pedair rhaglen ddogfen arall argyfer AmCam 2; y tro hwn yn benodol yn yr iaith Gymraeg. Gall Am gynnig £500 yr un tuag at ffilmiau byr am unrhyw fath o gelfyddyd neu weithgaredd cymdeithasol, neu waith penodol unigolion/sefydliadau yn y gymuned.