Arcade Campfa: Artistiaid preswyl ar-lein
- Mar 16
- 1 min read
Awdur: Arcade Campfa
Dyddiad cau: dydd Llun 23.03.26
Mae ArcadeCampfa yn falch o gyflwyno dau gyfle preswyl ar-lein. ‘Dyn ni’n gwahodd artistiaid gyda diddordeb mewn dangos neu ddatblygu gwaith ar gyfery gofod ar-lein i ymgeisio ar gyfer y preswyliadau fydd yn para pythefnos i bedair wythnos, rhwng Ebrill a Mai 2026.
Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy’n hunan-ddisgrifio fel un o’r canlynol:
artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang
artistiaid sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
artistiaid anabl, neu
artistiaid o gefndir economaidd-gymdeithasol is
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau cydweithredol.
Bu preswyliadau'r gorffennol yn cynnwys ffilm, perfformiad, darlunio, ffrydio byw – unrhyw beth sy’n gweithio â chyd-destun ar-lein. ‘Dyn ni hefyd yn croesawu darnau arbrofol neu waith ar y gweill.
Ffi o £500 yr artist
Diolch Cyngor Celfyddydau Cymru



