top of page

Artist Preswyl Ynys Enlli Galwad Agored Ionawr 2025

Awdur: Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Dyddiad cau: 16eg Chwefror 2025, canol dydd.


Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn falch iawn o gyhoeddi Rhaglen Breswyl Artistiaid 2025 ar Ynys Enlli. Gyda chefnogaeth gan The Ashley Family Foundation, maent yn cynnig chwe chyfle preswyl o bythefnos i artistiaid newydd ac wedi’u sefydlu o Gymru i fyw a gweithio ar Enlli. Mae ceisiadau bellach yn agored ar gyfer preswyliadau yn ystod haf 2025. 

 

Mae Ynys Enlli, sy’n enwog am ei bywyd gwyllt, ei hanes, a’i statws fel Noddfa Awyr Dywyll gyntaf Ewrop, yn cynnig encil heddychlon i artistiaid. Gall cyfranogwyr archwilio disgyblaethau fel ysgrifennu, cerddoriaeth, perfformio, y celfyddydau gweledol, crefft, ac ymchwil a datblygu. 

Am fanylion llawn y preswyliad cliciwch yma. 

Mae ceisiadau bellach ar agor, ewch i www.enlli.org.

Caiff y ceisiadau eu hystyried ym mis Chwefror, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod canol ganol mis Mawrth Oherwydd nifer y ceisiadau, nid ydym yn gallu cynnig adborth unigol.  

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau wrth wneud cais, cysylltwch â Chydlynydd Artistiaid Preswyl, Theo Shields, theo@enlli.org

5 views

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page