top of page

Cyfle Lleoliad: Oriel Davies Gallery

Dyddiad cau: 24/01/2025


Mae Oriel Davies yn gyffrous i wahodd artistiaid a chynhyrchwyr celfyddydau ar ddechrau eu gyrfa i wneud cais am gyfle lleoliad gyda phrosiect cymunedol newydd.


Ariennir y prosiect gan Wobrau Coffa Alexandra Reinhardt (ARMA) a'i gefnogi gan Engage


Rydym yn annog artistiaid a chynhyrchwyr gyrfa gynnar sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru i ymgeisio.


Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid a chynhyrchwyr gyrfa gynnar o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.


Bydd y lleoliad yn ymwneud â phob agwedd ar y prosiect a gynhelir rhwng mis Mawrth a mis Medi 2025. Mae’r rhain yn cynnwys cynllunio, cyflwyno a chefnogi diwrnodau creadigol i’r teulu a digwyddiad cerddorol yn Oriel Davies.


Bydd y prosiect yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda theuluoedd o Syria ac Afghanistan sy’n byw’n lleol i’r Drenewydd, Oriel Davies Gallery, prif artist a dau artist gwadd. Bydd yn gweithio gyda phlant a theuluoedd, gan ymgysylltu â nhw mewn celf gyfoes trwy weithdai, prydau a rennir a cherddoriaeth.


Mae'r cyfle am 6 diwrnod o waith (neu gyfwerth) gyda ffi o £690.


Anfonwch e-bost at Kate Morgan-Clare kate@orieldavies.org neu ffoniwch 01686 635041 i gael gwybod mwy ac am sgwrs anffurfiol.


Ar ôl sgwrs gychwynnol mae'r broses ymgeisio yn fyr ac yn hygyrch ac yn cynnwys cynnig byr a CV.


Mae Oriel Davies yn aelod o Sero Hiliaeth Cymru ac yn Gyflogwr Cyflog Byw.


2 views

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page