top of page

Grantiau teithio 2025-26 ar gyfer gweithwyr Dawns a Symudiad

Awdur: Cronfa Ysgoloriaeth Deithiol Lisa Ullmann

Dyddiad cau: 31/01/2025


Mae Cronfa Ysgoloriaeth Deithiol Lisa Ullmann yn cefnogi unigolion sy'n gweithio ym mhob maes o symudiad a dawns sy'n dymuno teithio er mwyn cyfoethogi eu harferion proffesiynol. Croesewir ceisiadau gan goreograffwyr, perfformwyr, darlithwyr, athrawon, ysgrifenwyr, therapyddion, cynhyrchwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig. Mae'r gronfa yn cefnogi costau teithio yn benodol, ond rhaid i geisiadau cryf ddangos sut y bydd eich taith/prosiect arfaethedig yn dod â budd i gymunedau, gweithleoedd neu gynulleidfaoedd ehangach. Mae cronfa 25/26 bellach ar agor i brosiectau arfaethedig o Ebrill 2025 i Ebrill 2026. 


Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol i ddileu rhwystrau a gwella hygyrchedd i ymgeiswyr. Gallai'r adnodd ychwanegol hwn eich cefnogi i gael mynediad at: gyfieithu o ieithoedd eraill, trawsgrifio ffeiliau sain a fideo, neu gefnogaeth cynhyrchydd cyflogedig wrth ysgrifennu cais. I ddarganfod mwy edrychwch ar bob Criterion Gwobr neu cysylltu gyda ni.


Os ydych yn anabl bydd LUTSF yn ariannu:

  • Yr holl gostau teithio o'ch cartref i'ch cyrchfan a chostau dychwelyd

  • Lle ceir tystiolaeth bod angen gweithiwr cymorth mynediad, byddwn yn darparu costau teithio dwyffordd ar gyfer y gweithiwr cymorth yn ogystal â chostau teithio’r ymgeisydd.


Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 31 Ionawr 2025. 


3 views
bottom of page