top of page

Galwad Agored Ffocws 2024

Awdur: Ffotogallery

Dyddiad cau: 12/01/2025



Am Ffocws


Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid gweledol ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru, ar gyfer y rhai sydd wedi bod trwy addysg ffurfiol, a’r rhai sydd wedi dilyn llwybrau eraill i ffotograffiaeth. Cefnogir Ffocws 2024 yn hael gan Ymddiriedolaeth Oakdale ac Ymddiriedolaeth Darkley.


Am Ffotogallery

 

Ffotogallery yw sefydliad ymroddedig Cymru ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes a practis sy'n ymgysylltu’n gymdeithasol. Rydym yn sefydliad ffotograffiaeth a chyfryngau lens nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i rymuso artistiaid gweledol cymhellol i ddatblygu dehongliadau newydd sy'n ychwanegu gwerth at gymdeithas trwy ein rhaglen gyffrous o arddangosfeydd a digwyddiadau


Manteision


Fel rhan o Ffocws 2024, bydd artistiaid graddedig yn cael cyfle i rannu eu gwaith naill ai drwy arddangosfa grwp yn Ffotogallery mis Mai - mis Gorffennaf. Ochr yn ochr â'r cyfle cyflwyno hwn, rydym yn cynnig cefnogaeth feirniadol gan artistiaid, curaduron a gweithwyr celfyddydol yn y maes i helpu i arwain artistiaid drwy'r cam nesaf. Bydd artistiaid sydd wedi'u cynnwys yn y cyfle hwn yn cael £400 fel ffi artist, a bydd 6 artist yn cael eu dewis i gyd.


Pwy sy'n gallu cystadlu?


Mae Ffocws yn agored i artistiaid a ffotograffwyr yng Nghymru, sy'n gweithio gyda ffotograffiaeth neu ddelwedd symudol yng Nghymru sydd wedi cwblhau gradd BA, MA neu lefel debyg (megis o Goleg y Mynydd Du, y Brifysgol Agored ac ati) neu gwrs astudio mewn unrhyw ddisgyblaeth greadigol megis Ffotograffiaeth, Celfyddyd Gain, Gwneud Ffilmiau, Dylunio Graffig, ac ati.


Mae Ffocws hefyd yn agored i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa sy'n gweithio gyda ffotograffiaeth neu ddelwedd symudol yng Nghymru, nad ydynt wedi mynd trwy addysg ffurfiol sydd wedi cyrraedd pwynt lle byddai'r cyfle hwn yn gwneud gwahaniaeth i'w hymarfer. Nid yw Ffocws yn agored i bobl sydd mewn addysg llawn amser ar hyn o bryd.


Hawliau Delwedd


Mae ymgeiswyr yn cadw perchnogaeth a hawlfraint eu ffotograffau a gyflwynwyd. Ar ôl cael eu dewis, mae cyfranogwyr yn rhoi trwydded anghyfyngol, anadferadwy i Ffotogallery atgynhyrchu, cyhoeddi ac arddangos delweddau a gyflwynwyd sy'n uniongyrchol yn ymwneud â'r Alwad Agored ym mhob cyfrwng ledled Cymru a thu hwnt am byth. Mae hyn yn cynnwys ac nid yw'n gyfyngedig i wefan, cyfryngau cymdeithasol, ac unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo/marchnata Ffotogallery. Bydd unrhyw ddefnydd o'r ffotograffau bob amser yn cael ei gredydu'n llawn.


Llinell amser


  • 5 Rhagfyr 2024 - Galwad agored yn agor

  • 23:59, 12 Ionawr 2025 - Galwad agored yn cau

  • w/d 13 Ionawr 2025 - cyfweliadau anffurfiol

  • w/d 20 Ionawr - artistiaid yn cael eu dewis

  • w/d 20 Ionawr 2025 - w/d 19 Mai 2025 - Cefnogaeth critigol

  • 29 Mai - Rhagolwg Ffocws yn Ffotogallery

  • 30 Mai - 12 Gorffennaf - Ffocws yn agor yn Ffotogallery


Sut i gystadlu


Rhaid cyflwyno'r holl geisiadau trwy ddolen Google Form. Byddwch yn derbyn copi o'ch cais unwaith y bydd wedi'i gyflwyno. Peidiwch â chyflwyno mwy nag un cais; bydd y cais cyntaf yn cael ei gyfrif ac ni fydd unrhyw gais arall yn cael ei ystyried. Mae'n rhad ac am ddim i gystadlu.


Mae ceisiadau i Ffocws yn cau ar 23:59, 12 Ionawr 2025. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr; cysylltwch â ni ymlaen llaw os ydych yn profi unrhyw broblemau gyda'r ffurflen.


Fel rhan o'r cyfweliad anffurfiol, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau safonol yn ogystal ag eraill yn benodol am eich gwaith a'ch ymarfer. Bydd y cwestiynau safonol yn cael eu rhannu gyda chi ymlaen llaw os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad. Ni fydd y cyfweliad yn para mwy na 30 munud a gellir ei gynnal wyneb yn wyneb yn Ffotogallery neu dros Zoom.


Bydd angen i chi gyflenwi:


  • Eich enw a'ch manylion cyswllt

  • Eich cwrs (os yn berthnasol)

  • Dolenni i unrhyw wefannau neu broffiliau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich ymarfer

  • Hyd at 5 delwedd (rhaid bod yn llai na 2mb yr un, .jpg, .jpeg, .png) neu Dolenni ar gyfer hyd at 3 gwaith delwedd symudol

  • Capsiynau ar gyfer y gweithiau hyn

  • Datganiad byr am eich gwaith (uchafswm o 200 gair)

  • Bywgraffiad byr amdanoch chi (200 gair ar y mwyaf)


Byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen cyfle cyfartal fel rhan o’ch cais, bydd hon yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol a bydd yn ein helpu i werthuso ein gwaith wrth gyflwyno, datblygu a chefnogi ystod amrywiol o artistiaid.


Cwestiynau


Gellir anfon unrhyw gwestiynau at: info@ffotogallery.org a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.


bottom of page