Awdur: Papertrail / Llwybr Papur
Dyddiad cau: 16/12/2024
Hoffai Papertrail benodi Cynhyrchydd Creadigol profiadol i weithio gyda’r Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig Bridget Keehan a Jonny Cotsen ar gynyrchiadau cyffrous sydd ar y gweill ar gyfer 2025.
Mwy am Papertrail
Mae Papertrail wedi bod yn creu a llwyfannu straeon nas clywir gan leisiau sydd wedi eu tangynrychioli yng Nghymru a thu hwnt am 10 mlynedd. Diolch i gynllun Camau Creadigol CCC mae’r cwmni bellach yn camu i gyfnod cyffrous yn natblygiad y cwmni gyda Jonny Cotsen yn cyd-arwain y cwmni gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, Bridget Keehan sylfaenydd y cwmni. Eu cyd-weledigaeth ydy dal ati i lwyfannu straeon nas clywir ac i ddatblygu estheteg hygyrchedd creadigol y gwaith a gynhyrchir. Amcan sylfaenol y cwmni ydy creu cyfleon newydd i unigolion sydd wedi gwynebu rhwystrau ac sydd wedi eu tangynrychioli yn y celfyddydau.
Mwy am y swydd
Er mwyn galluogi Papertrail i gyrraedd ein hamcanion, rydym yn edrych am Gynhyrchydd Creadigol profiadol ac gweledigaethol i gydweithio â ni i rannu ein gweledigaeth newydd. Bydd y Cynhyrchydd Creadigol yn cydweithio’n agos â’r Cyd Gyfarwyddwyr Artistig, yn ogystal a chydweithwyr marchnata a chynhyrchu i wireddu prosiectau creadigol cyffrous. Mae’r swydd yn gofyn am arbenigedd rheoli prosiect yn ogystal ac ymrwymiad i ddatblygu a llwyfannu straeon nas clywir.
Am bwy rydym yn edrych amdano?
Rydych yn unigolyn sydd yn ymroddedig i alluogi pobl i ymgysylltu gyda eu creadigrwydd ac yn credu bod y celfyddydau gyda’r pwêr i fod yn drawsnewidiol. Rydych yn gydweithredwr gwych gyda’r egni a’r cymhelliad i wireddu prosiectau arbennig. Yn fwy na dim rydych yn meddwl yn greadigol ac yn ymroddedig i gyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.
Prif ddyletswyddau yn cynnwys:
Cefnogi castio a recriwtio tîm creadigol a chynhyrchu
Cefnogi datblygiad a gweinyddu prosiectau newydd
Rheoli amserleni cynhyrchu a phrosesau ymarfer
Cefnogi marchnata, codi arian a gweithgareddau cymunedol.
Manylion Person
Angenrheidiol
Yn angerddol am theatr a rhannu straeon
Dealltwriaeth clir o weledigaeth a chenhadaeth Papertrail
Gallu gweinyddu a threfnu rhagorol
Sgiliau cyfathrebu gwych
Sgiliau rhyngbersonol a chydweithio rhagorol
Lleiafswm o 3 blynedd o brofiad fel Prif Gynhyrchydd neu Reolwr Prosiect yn y sector gelfyddydol
Y gallu i reoli nifer o flaenoriaethau a gweithio i derfynau amser
Personoliaeth cyfeillgar, caredig a chymwynasgar
Trefnus a hunan-gymhellol
Prawf o ymrwymiad i amrywiaeth a chydraddoldeb ac ymrwymiad i feithrin diwylliant o barch a cynwysoldeb
Yn hapus i weithio o bell/o gartref ond yn barod i deithio i gyfarfodydd a phrosiectau pan fo’r galw
Yn gwerthfawrogi ac yn gefnogol i’r iaith Gymraeg
Dymunol
Hyderus yn ysgrifennu a siarad Cymraeg ac/neu ieithoedd eraill
Dealltwriaeth sylfaenol BSL, ymwybyddiaeth Byddar neu wedi gweithio gyda phobol Byddar neu unigolion Trwm eu Clyw
Rhwydwaith gref a chysylltiadau gyda lleoliadau teithio bychan a chanolig eu maint rhanbarthol
Profiad o deithio rhyngwladol a gŵyliau
Sgiliau marchnata a rhwydweithio cymdeithasol
Hygyrchedd a Chynhwysiad
Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o gymunedau sydd yn cael eu tangynrychioli yn y gweithle celfyddydol, yn enwedig wrth ystyried anabledd, dosbarth ac ethnigrwydd, a phobl sydd a phrofiad bywyd sydd yn adlewyrchu y cymunedau rydym yn gweithio â nhw. Rydym yn gwarantu cyfweld â unrhyw ymgeisydd anabl sydd yn cyrraedd meini prawf angenrheidiol y swydd. Os ydych yn teimlo fod hyn yn berthnasol i chi, nodwch hynny yn eich llythyr cais os gwelwch yn dda.
Os oes anghenion penodol neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod y broses recriwtio, gan gynnwys unrhywbeth sydd ei angen arnoch pe byddai chi’n cael eich galw am gyfweliad (e.e. cyfieithwyr, gwybodaeth mewn fformat wahanol ayyb.) neu os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r swydd yn gyfrinachol, yna cysylltwch â: bridget.keehan@papertrail.org.uk
Ffi
Mae’r cytundeb llawrydd rhan amser yn 50 diwrnod dros gyfnod o 10 mis i ddechrau ar raddfa o £200 y dydd. Mae modd negydu oriau gwaith ond yn ddelfrydol 2 ddiwrnod yr wythnos i ddechrau. Hoffwn i’r ymgeisydd ymuno â ni yn gynnar yn 2025.
Proses Ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr cais dim mwy na 2 ochr A4 yn nodi:
Pam eich bod chi eisiau gweithio gyda Papertrail a’r profiad a’r nodweddion byddech yn ei gyfrannu i’r cwmni. Cyfeiriwch at y manylion person yn y llythyr neu’r CV.
Lawrlwythwch y ffurflen cyfle cyfartal (ar gael o’n gwefan – www.papertrail.org.uk ). Os yn cael trafferth i lawrlwytho’r ffurflen neu os oes ganddo chi gwestiynnau pellach am y broses ymgeisio, ebostiwch: contact@papertrail.org.uk
Mae modd ymgeisio drwy fidio neu sain yn hytrach na anfon llythyr cais, i gydfynd gyda’ch copi o’ch CV. I wneud hyn gwnewch yn siwr bod eich recordiad wedi ei arbed mewn fformat hygyrch a’i anfon drwy ddolen WeTransfer i: contact@papertrail.org.uk
Dylai fidios/sain ddim bod yn hirach na 5 munud o hyd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener y 16ed o Ragfyr am 12yh
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal: Dydd Llun Ionawr y 6ed 2025