top of page

Sgwennu’n Well - Llenyddiaeth Cymru

Awdur: Llenyddiaeth Cymru


Dyddiad cau: 5.00yp, dydd Iau 13 Mawrth 2025.


Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 15 mis mewn dwy ran ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. Bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr.


Mae  Sgwennu’n Well | Writing Well yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant a Natur. Bydd hon yn rhaglen datblygu proffesiynol blwyddyn o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr â pheth profiad o gyflwyno prosiectau mewn cymunedau.


Mae’r tri mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel:

  • datblygu a rheoli prosiectau

  • rhedeg cyllidebau

  • casglu a chyfathrebu effaith eich gwaith

  • diogelu grwpiau


Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a llesiant ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol.

Bydd pob artist hefyd yn cael isafswm o 4 sesiwn un-i-un gyda mentor; yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a meithrin perthynas ag awduron eraill.


Yn dilyn y rhaglen hyfforddi tri-mis gychwynnol, a thri mis o gynllunio, y bwriad cynnig cronfa o gyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen. 


Ar ôl y rhaglen 15 mis, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r garfan a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gallu derbyn y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu hamcanion. 


5 views

Related Posts

See All

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page