top of page

Artist y Mis: Bridie Doyle-Roberts

  • 3 days ago
  • 4 min read

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.


Artist y Mis yw Bridie Doyle-Roberts, artist amlddisgyblaethol sy'n byw ym Mhontypridd. Mae ei gwaith yn cynnwys arweinyddiaeth greadigol ac adeiladu cymunedau.


Ffoto gan Two Cats in the Yard photography
Ffoto gan Two Cats in the Yard photography

Ar ôl hyfforddi mewn Dawns sefydlodd Citrus Arts, elusen syrcas, dawns a chelfyddydau awyr agored lle bu'n Gyd-gyfarwyddwr Artistig am y 15 mlynedd diwethaf. Yn y rôl hon creodd gynyrchiadau theatr gwyliau, safle-benodol a theithiol a datblygodd brosiectau addysg a cymunedol. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith gyda Green Man, London Youth Circus, Big Splash, Walk The Plank, Theatr Genedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Arts Active, Earthfall, Y Coleg Cymraeg, NoFitState Circus a Phrifysgol Bath Spa.


Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn diagnosis o gyflwr genetig prin sy'n effeithio ar ei golwg, mae hi'n creu gweithiau celf gosod synhwyraidd efo dodrefn, celfyddydau gweledol, sain a barddoniaeth ddwyieithog. Mae gan Bridie ddiddordeb mewn archwilio'r cysylltiadau dynol â gwrthrychau bob dydd a'r hyn y mae'r eitemau hyn yn ei ddweud am hunaniaeth, gwerthoedd a diwylliant. Mae'r gwaith yn gwahodd pobl i eistedd a phrofi mewn ffordd synhwyraidd, gan helpu i wneud y gwaith yn hygyrch i bobl rhannol ddall, fel hi ei hun.


Ffoto gan Mark Robson 
Ffoto gan Mark Robson 

Mae Bridie yn Asiant dros Newid ar brosiect Craidd sydd wedi'i leoli yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i effeithio ar newid yn y sector theatr i ddod yn fwy cymhwysol a hygyrch i bobl anabl, Byddar a niwroamrywiol. Mae Bridie hefyd yn aelod o’r Consortiwm Cymraeg efo Cyngor Celfyddyddau Cymru.


Mae arddangosfa Bridie, Spectrum of Sight, am golli golwg, ar daith eleni a'r flwyddyn nesaf. Mae'r arddangosfa yn Llantarnam Grange o 13 Mehefin - 29 Awst. Yna bydd yn Neuadd y Dref Maesteg ym mis Chwefror am wythnos ac yn Theatr Clwyd o fis Chwefror - Ebrill 2027.


Ffoto gan Two Cats in the Yard photography
Ffoto gan Two Cats in the Yard photography

Sbectrwm o'r Golwg


Os na fyddwn i wedi dweud wrthych chi, sut fyddech chi'n gwybod pa mor bell i mewn i'r twnnel rydw i wedi mynd….


Ar ôl darganfod bod ganddi gyflwr dirywiol ar ei llygaid, mae Bridie Doyle-Roberts yn camu i fyd ansicr lle mae dallineb yn dynesu.


Fel perfformiwr ac artist, defnyddiodd Bridie ei phrofiad i greu gosodiad celf theatrig ymgollol, Sbectrwm o’r Golwg, i archwilio sut yr ydym yn gweld, beth yr ydym yn ei weld a sut deimlad yw yr adeg pan fydd y byd gweledol yn mynd ar goll yn y tywyllwch.


Ffoto gan Mark Robson
Ffoto gan Mark Robson

Mae Sbectrwm o’r Golwg yn archwilio colli golwg gan ddefnyddio dodrefn, barddoniaeth a seinweddau. Trwy ddefnyddio ei thaith bersonol hi wrth golli ei golwg mae Bridie yn creu ymdeimlad o berygl ac ansicrwydd os na allwch ymddiried yn yr hyn y mae eich llygaid yn ei ddweud wrthych. Mae eitemau domestig fel cadeiriau a lampau, sy’n amrywio o ran y peryglon y maent yn eu creu, a seinwedd driphlyg o farddoniaeth ddwyieithog, synau naturiol a chyfansoddiad cerddorol (y gellir eu clywed trwy setiau pen) yn creu profiad personol ac ymgollol lle gall y gynulleidfa archwilio’r gweithiau celf trwy eu teimlo.


Ffoto gan Mark Robson
Ffoto gan Mark Robson

Crëwyd Sbectrwm o’r Golwg gyda hygyrchedd creadigol yn ganolog iddo, sy’n golygu bod atebion creadigol wedi cael eu hymwreiddio yn y gwaith celf neu ar gael ar y wefan fel bod y cynnwys yn hygyrch i gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg, Byddar, trwm eu clyw a niwrowahanol. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys sain sy’n rhan ohonynt, elfennau â sain-ddisgrifio, Braille, elfennau cyffyrddadwy, geiriau ysgrifenedig, fideo a fersiynau gyda dehongliad BSL o’r seinweddau. Bydd amseroedd penodol pan fydd tywysydd sy’n gweld neu gyfieithydd BSL ar gael i gyfathrebu â’r cynulleidfaoedd.


Dywedodd Bridie Doyle-Roberts, “Mae colli fy ngolwg wedi bod yn broses o alar a cholled, derbyn, darganfod ac argyfwng hunaniaeth. Mae fy ngwaith yn ystyried sut y mae person â nam difrifol ar ei olwg yn rhyngweithio â’r byd, faint yr ydym yn dibynnu ar ein gallu i gyffwrdd, synau, golau a chyferbyniad ac a ydym yn gwybod beth sydd tu hwnt i flaenau ein bysedd neu a yw pethau yr hyn y maent yn ymddangos neu beidio. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn teimlo ymdeimlad gwerthfawrogol o ran sut brofiad yw hyn i bobl fel fi a deall bod golwg yn sbectrwm ac nad yw’n rhywbeth sydd naill ai ymlaen neu wedi diffodd.”


Ffoto gan Mark Robson
Ffoto gan Mark Robson

Bydd seinweddau triphlyg yn cyd-fynd â’r gweithiau celf (ar setiau pen disgo tawel); barddoniaeth ar lafar gan Bridie yn Gymraeg a Saesneg, seinwedd elfennol glaw yn tasgu oddi ar wrthrychau a seinwedd ddramatig trenau yn cyrraedd twneli gyda soddgrwth ac effeithiau sain anesmwyth wedi eu creu gan y Cyfansoddwr Simon McCorry.


Mwy o wybodaeth ar gwefan Bridie: https://www.bridiedoyle.co.uk


Adborth cynulleidfa:


“Profiad anhygoel a bwerus oedd symud o gwmpas yr arddangosfa. Roedd y barddoniaeth a’r geiriau wedi helpu fi deall a teimlo empathy tuag at ei sefyllfa o golli golwg. Byddwn yn argymell pawb i ddod i ymweld a’r gwaith”


“Roedd cymaint o bethau annisgwyl a oedd yn gwneud i fi deimlo’n ansicr, yn ddihyder ac yn anghyfforddus, bron â cherdded mewn i bobl yn y twnel. Profiad i wneud i fi feddwl am y brofiad pobol namgolwg.”


Media:


Ffilm ddogfen fer Sbectrwm o'r Golwg - Gan Hugh Griffiths

Mae'r fideo ar gael gyda chapsiynau yn Saesneg a Chymraeg.


Taflen Iaith Arwyddion Prydain - Gan Emily Rose (am berfformiadau Parc Arts):


Taflen Sain - Saesneg (am berfformiadau Parc Arts)


Gwrandewch ar glipiau o'r Soundscapes yma:


Rhestr o artistiaid/cydweithwyr a rolau:


Artist Arweiniol - Bridie Doyle-Roberts

Cyfansoddwr - Simon McCorry

Barddoniaeth - Bridie Doyle-Roberts

Dylunydd Goleuo - Garrin Clark

Celf fideo - Hugh Griffiths

Artist Cynorthwyydd - Rebecca Rowlands

Artist Cynorthwyydd Hyfforddi - Jodie Yates

Gwaith Saer - David Morris

Mentor - Rachel Gadsden

Hygyrch BSL creadigol - Emily Rose

Ymgynghorydd BSL - Heather Williams

Disgrifiad sain - Billie Ingram-Sofokleus

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page