Atal y Toriadau: Sesiwn Gelf Protest
- cerys35
- Apr 2
- 1 min read
Awdur: @transient_rat
5ed Ebrill 12 - 3
Ymunwch â ni am ddigwyddiad cymdeithasol cymunedol rhad ac am ddim i sgwrsio a gwneud celf i brotestio'r toriadau i fudd-daliadau. Mae hwn yn ddigwyddiad galw heibio, nid oes angen archebu ymlaen llaw nac i aros am yr amser cyfan.
Bydd gennym ddeunyddiau ar gyfer gwneud hysbyslenni, bathodynnau, zines, clytiau a mwy! Dewch i wneud celf neu dewch i sgwrsio. Mae croeso i bawb, gan gynnwys cynghreiriaid abl.
Gwybodaeth mynediad:
Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, gan gynnwys mynediad fflat, lifftiau a thoiledau hygyrch. Mae croeso i gŵn cymorth. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol neu gwestiynau, anfonwch DM ataf: @transient_rat