top of page

Beacons: Cronfa Ffilmiau Byrion

  • cerys35
  • May 26
  • 2 min read

Awdur: Ffilm Cymru Wales

Dyddiad Cau: 27 Mehefin 2025


Drwy ddarpariaeth RHWYDWAITH BFI Cymru, mae Ffilm Cymru yn comisiynu ffilmiau byr o ansawdd fyd-eang ar ffurf gweithredu byw, ffilmiau dogfen ac animeiddiadau.


Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant a mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i fwrw ymlaen â’u gyrfa. Mae ffilmiau byr Beacons wedi cael llwyddiant mewn gwyliau a wedi ennill nifer o wobrwyon.


Pwy all wneud cais?


Rydym yn derbyn ceisiadau oddi wrth:

  • Timau awdur, cyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr) a chynhyrchydd

  • Timau awdur a chyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr unigol) lle nad oes cynhyrchydd yn gysylltiedig ar hyn o bryd


Dylai awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn flaenorol fod wedi ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu o leiaf un ffilm fer sydd wedi’i dangos neu’i darlledu’n gyhoeddus a/neu fod â hanes blaenorol mewn cyfrwng creadigol cysylltiedig.


Gall hyn fod ym maes ffilm, teledu, theatr neu ffurf arall ar gelfyddyd naratif. Mae'n cynnwys gwaith fel myfyriwr neu waith a grëwyd ar lawr gwlad. Efallai eich bod eisoes wedi creu gwaith gyda chyllid masnachol neu sefydliadol neu beidio. Byddwn hefyd yn ystyried rhai sydd â phrofiad blaenorol mewn rolau perthnasol eraill, e.e. cyfarwyddwr ffotograffiaeth yn symud i gyfarwyddo, rheolwr cynhyrchu yn symud i gynhyrchu.


Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwr ar y prosiect fod wedi’u geni yng Nghymru a/neu fod yn seiliedig yng Nghymru.


Pa fath o ffilm fer sy’n gymwys?

Ffilm gweithredu byw, animeiddiad, ffilm ddogfen neu hybrid o hyd at 15 munud o hyd.


Am faint allaf i wneud cais?

Hyd at £25,000.


Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau?

27 Mehefin 2025 am 12pm.


Canllawia a Gwybodaeth Bellach

Darllenwch neu wrandewch ar y Canllawiau isod cyn cychwyn ar eich cais. Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn ag unrhyw beth, cymrwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin a’n hadnoddau ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau byr.


Sut i Wneud Caid

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais isod (Gweithredu Byw, Ffilm Ddogfen neu Animeiddiad) a’i hanfon mewn e-bost i network@ffilmcymruwales.com ynghyd â:


  • Sgript

    • ymdriniaeth (yn achos ffilm ddogfen yn unig)

    • fwrdd stori (yn achos animeiddiad yn unig)

  • CVs aelodau allweddol o’r tîm creadigol

  • Dolen i o leiaf un darn blaenorol o waith gan y cyfarwyddwr


Mae rhai o’r cwestiynau yn y ffurflen gais yn cynnwys opsiynau i gyflwyno’r atebion ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu nodyn llais.


Fel arall, os yw’n well gennych chi, fe allwch chi ymateb i’r cwestiynau yn y ffurflen gais drwy alwad fideo neu alwad ffôn fyw. Dylid trefnu hyn gyda’n tîm ymlaen llaw cyn y dyddiad cau.


Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael i unigolion sydd yn F/fyddar, â nam ar eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eu golwg. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion yn gyfrinachol:


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page