top of page

Cerddi yn Cwrw:Lleisiau Anabl Caerfyrddin

  • cerys35
  • Jul 9
  • 2 min read

Awdur: write4word


Achlysur arbennig yw ail ddigwyddiad Cerddi yn Cwrw mis Gorffennaf. Mae nifer o aelodau ein cymuned yn anabl ac mae eu hysgrifennu yn aml yn adlewyrchu'r profiad byw hwnnw. Mae “Lleisiau Anabl Caerfyrddin” yn ddathliad creadigol o'r agwedd honno ar eu hunaniaeth ddiwylliannol. Mae write4word yn mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd nid y model meddygol ac mae unrhyw aelod o'n cymuned sy'n hunan datgelu yn anabl yn cael ei wahodd i berfformio. Wrth gwrs, mae croeso hefyd i bob aelod o’n cymuned nad yw’n anabl fel i ymuno fel aelodau o’r gynulleidfa i ddathlu’r gair llafar am brofiad anabl. Mae write4word yn rhan o daith benodol i gael gwared ar yr ‘an’ oddi wrth anabl dan arweiniad Shahd Zorob gyda chefnogaeth rhwydwaith partneriaeth Localmotion Caerfyrddin. Ein darllenydd gwadd arbennig yn y digwyddiad hwn fydd Bethany Handley.


Dydd Llun 21 Gorffennaf 6yh (amser Cymru) CWRW 32 King Street, Caerfyrddin, SA31 1BS


Anogir pob math o air llafar, barddoniaeth, ffuglen fflach, darnau o nofel, stand-up, monolog, deialog, ond mae'r gymuned gyfeillgar a chefnogol hon yn gofyn i chi gadw o fewn terfyn o dair munud.


Mae'r digwyddiad yn tueddu i fod yn Saesneg yn bennaf, ond yn aml mae gennym gyfraniadau Swedaidd, Sbaeneg, Hindi a Gwyddeleg. Gan ein bod wedi ein lleoli yng Nghaerfyrddin, rydym yn arbennig yn mwynhau'r nosweithiau lle mae gennym elfennau cryf o'r iaith Gymraeg.


Mae croeso i bob diwylliant i'r gofod cynhwysol a diogel hwn.


Cofrestrwch ar y noson yn bersonol neu ar-lein drwy e-bostio ymlaen llaw


Mae'r drysau'n agor, yn rhithwir ac yn gorfforol, am 5.45. Mae'r darlleniadau'n dechrau am 6.00. (amser Cymru) MAE HWN YN DDIGWYDDIAD AM DDIM, ond byddai rhodd awgrymedig o £3 yn cynnwys tocyn raffl:


Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio, felly os gwelwch yn dda rho wybod i ni os nad ydych eisiau i'ch perfformiad cael ei rhannu i gynulleidfa ehangach.


Dyma'r ddolen i ymuno â'r digwyddiad:

Meeting ID: 822 9866 4827

Passcode: 584535


Enwyd Bethany Handley, awdur, bardd ac ymgyrchydd dros anabledd, ymhlith pobl anabl mwyaf dylanwadol y DU (Shaw Trust 2024). Enillodd hi Wobr Aur Creative Future am lyfrau ffeithiol a wnaeth hi olygu'r antholeg Beyond / Tu Hwnt. Roedd ei phamffled barddoniaeth Cling Film (Seren, 2025) yn ddewis diwylliannol gorau Country Living yn 2025.


Datblygwyd y Model Cymdeithasol o Anabledd gan bobl Anabl ac mae'n disgrifio bod yn anabl oherwydd rhwystrau yn y gymdeithas, nid oherwydd ein nam na'n gwahaniaeth. Pe bai bywyd modern wedi'i sefydlu mewn ffordd a oedd yn hygyrch i bobl Anabl, yna ni fyddem yn cael ein heithrio na'n cyfyngu.


Mae model cymdeithasol anabledd yn ein helpu i gydnabod rhwystrau sy'n gwneud bywyd yn anoddach i bobl anabl. Nodir y rhwystrau hyn fel yr amgylchedd ffisegol, agweddau pobl, y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu, sut mae sefydliadau'n cael eu rhedeg, a sut mae cymdeithas yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai ohonom sy'n cael ein hystyried yn 'wahanol'. Mae cael gwared ar y rhwystrau hyn yn creu cydraddoldeb ac yn cynnig mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth i bobl anabl.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page