top of page

Cân Gymraeg newydd gan aelod DAC Frances Abigail Bolley wedi’i rhyddhau ar label ‘Sionci’ Tŷ Cerdd

  • cerys35
  • Jul 9
  • 2 min read

Llongyfarchiadau i aelod DAC Frances Abigail Bolley!


Music cover artwork with a photograph of a woman in a purple top playing an acoustic guitar with multiple musical instruments in the background.

Awdur: Tŷ Cerdd



Cân i nodi parhad AffriCerdd – sef partneriaeth Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol yn cefnogi artistiaid o liw i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.


Ym mis Gorffennaf bydd ‘i siarad’, sef cân Gymraeg newydd gan yr artist o Gaerdydd, Frances Abigail Bolley, yn cael ei rhyddhau ar label Sionci, Tŷ Cerdd.


Cyfansoddwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2024 fel rhan o fenter rhwng Tŷ Cerdd a’r Eisteddfod sy’n cefnogi cerddorion o liw i greu cerddoriaeth newydd yn y Gymraeg. Mae hyn yn deillio o ymrwymiad y ddau sefydliad i ennyn diddordeb a chefnogi ystod amrywiol o grewyr cerddoriaeth i greu gwaith yn y Gymraeg.


Meddai Frances: “Mae hi wedi bod yn fraint cael fy nghomisiynu i ysgrifennu ar gyfer yr Eisteddfod. Er nad ydw i’n siaradwr rhugl, dwi’n caru’r Gymraeg ac yn credu ei bod hi’n iaith hardd, farddonol. Roedd hi’n bwysig iawn i mi fod yr hyn ro’n i’n ei ysgrifennu nid yn unig yn gwneud synnwyr yn y Gymraeg ond ei fod hefyd yn llifo’n farddonol.”


Mae ‘i siarad’ yn archwilio gwerth geiriau a lleferydd, gan gyffwrdd ag ymdrechion hanesyddol i ddileu’r iaith Gymraeg. Mae’r gân hefyd yn codi cwestiynau ynghylch y berthynas rhwng iaith a lle, gan ddefnyddio dau ddarn o farddoniaeth gan Ann Griffiths a David Whyte.


Dywedodd Frances: “…a finnau’n berson awtistig rhannol ddieiriau weithiau dwi’n cael fy hun yn methu â siarad, i mi mae hefyd yn ymwneud â gwerth geiriau a’r pwysau sy’n cael ei roi ar y weithred o lefaru.”


Cafodd Frances ei mentora drwy gydol y broses gan yr artist blaenllaw o Gymru, Eadyth Crawford, gan ddatblygu ei hyder i ysgrifennu a pherfformio geiriau caneuon yn y Gymraeg.


Dechreuodd y fenter yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen (o dan y teitl CoDi Cân bryd hynny) a chefnogwyd pum artist o liw i ysgrifennu caneuon newydd yn y Gymraeg, a chreu eu fideos cerddoriaeth eu hunain – gyda mentora gan Lily Beau, Tumi Williams a Jonny Reed.


2024 oedd blwyddyn gyntaf y prosiect o dan ymbarél AffriCerdd.


AffriCerdd 2025 yn yr Eisteddfod Genedlaethol


Eleni, mae AffriCerdd yn arddangos y gantores-gyfansoddwraig Lily Webbe, sydd hefyd wedi cael ei mentora gan Eadyth. Bydd Lily ac Eadyth ill dwy yn perfformio yn yr Eisteddfod ar lwyfan Encore ddydd Gwener 8 Awst am 12:15 – ynghyd â Frances Abigail Bolley, a fydd yn perfformio’r gân ‘i siarad’.


I’w rhyddhau ar Recordiau Sionci – ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar bob platfform mawr: https://orcd.co/isiarad


Frances Abigail Bolley – i siarad


  • Dyddiad rhyddhau’r sengl: dydd Gwener 4 Gorffennaf

  • hyd: 3’31”

  • Dyddiad rhyddhau’r fideo: dydd Gwener 11 Gorffennaf (fideo wedi’i chreu gan Chillee Noir)


Ariannwyd gan PYST x Cronfa Fideo Cerdd S4C

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page