top of page

Craidd Lleoliadau Dan Hyfforddiant: Cynllunio Goleuo a Fideo - Theatr Clwyd

  • cerys35
  • 9 hours ago
  • 4 min read

Awdur: Theatr Clwyd

Dyddiad cau: 6yh ar ddydd Llun 3ydd Tachwedd 2025


Mae’r cynnig ar agor i grëwyr theatr (gyda ffocws penodol ar Gynllunwyr Setiau a Chynllunwyr Goleuo / Fideo) sydd â chysylltiadau cryf â Chymru oherwydd eu bod wedi'u geni, eu magu neu'n byw ar hyn o bryd yng Nghymru ac sy'n uniaethu fel naill ai Byddar, anabl a / neu Niwroamrywiol. Byddant yn elwa o becyn cefnogi unigryw a phwrpasol yn Theatr Clwyd drwy'r fenter Craidd.



Mae pecynnau gwybodaeth, yn cynnwys Hawdd i Ddeall, IAP a Disgrifiad Sain ar gael ar ein gwefan: https://www.theatrclwyd.com/cy/take-part/artists/open-casting-under-milk-wood-2-2


Dyddiad cau ar gyfer y cyfle yw 6yh ar ddydd Llun 3ydd Tachwedd 2025.


MEINI PRAWF HANFODOL:

• Diddordeb brwd mewn goleuo penodol i’r theatr ac yn gallu dangos ymrwymiad i gynllunio goleuo a / neu fideo ac angerdd dros greu theatr;

• Trefnus, hyderus, hyblyg, digynnwrf a chymdeithasol gydag agwedd gadarnhaol a rhagweithiol;

• Aelod da o dîm sy'n barod i weithio’n gydweithredol gyda’r tîm o amgylch y sioe (pobl greadigol, actorion, rheolwyr llwyfan a staff Theatr Clwyd);

• Gallu dangos diddordeb angerddol mewn datblygu gwaith ar raddfa fawr;

• Gallu dangos diddordeb angerddol yn y ffordd y mae Mynediad a Chynhwysiant yn chwarae rhan allweddol yn ei arfer creadigol;

• Wedi cael rhywfaint o brofiad o gynllunio goleuo a / neu fideo mewn swyddogaeth broffesiynol;

• Bodlon i gymryd rhan mewn rhywfaint o waith ymarferol lle bo hynny’n addas;

• Gallu dangos diddordeb brwd mewn ymgysylltu â gwahanol gymunedau a chreu gwaith mewn cydweithrediad â chymunedau;

• Wedi eich lleoli yng Nghymru neu o Gymru gydag ymrwymiad i greu gwaith yng Nghymru;

• Dros 18 oed a heb fod mewn addysg na hyfforddiant ffurfiol ar hyn o bryd.


MEINI PRAWF DYMUNOL:

• Trwydded yrru lawn a glân.

• Rhugl yn y Gymraeg.

• Profiad o weithio ochr yn ochr â thimau Ymgysylltu Creadigol a phrosiectau allgymorth cymunedol.


BWRSARI

Gallwn gynnig taliad bwrsari prynu allan o £5,150.00 i'r Cynllunydd Goleuo a Fideo Dan Hyfforddiant ar Under Milk Wood.


Y Swydd:

Mae'r lleoliad yn weithredol rhwng 26ain Ionawr ac 20fed Mawrth 2026. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol yn yr adeilad yn llawn amser yn ystod y lleoliad. Yr oriau gwaith arferol fydd 10am i 6pm ond bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn enwedig yn ystod yr wythnosau technoleg a’r sioeau ymlaen llaw.


Bydd y lleoliad yn cynnwys y canlynol:

• Mynychu cyfarfodydd goleuo / cynllunio sy'n gysylltiedig â'r cynhyrchiad.

• Mynychu cyfarfodydd cynhyrchu sy'n gysylltiedig â'r cynhyrchiad.

• Dau gyfarfod un i un o leiaf gyda'r Cynllunwyr Goleuo a Fideo yn ystod y broses ymarfer i ddeall eu siwrnai drwy'r broses ymarfer a'r broses gynhyrchu.

• Lleoliad 2 i 3 wythnos gyda'r Adran Goleuo yn Theatr Clwyd i arsylwi'r cynllunio a'r creu ar gyfer y cynllun a deall sut mae hyn yn effeithio ar feysydd eraill o greu yn Theatr Clwyd.

• Arsylwi ymarferion os yw hyn o help i ddatblygiad y derbynnydd a mynychu’r holl ymarferion lle mae’r Cynllunwyr Goleuo a Fideo yn bresennol i ddeall eu rôl mewn ymarferion a sut mae hyn yn sail i’w cynllunio.

• Bod yn bresennol drwy gydol yr ymarferion adeiladu a thechnegol, gan arsylwi’r Cynllunwyr Goleuo a Fideo a gweithio gyda'r rhaglennydd a'r trydanwr cefnogi.

• Mynychu’r sioeau ymlaen llaw a’r trafodaethau ynghylch y sioeau ymlaen llaw i weithredu unrhyw newidiadau cyn y Noson i Westeion.

• Cyfarfod un i un terfynol gyda'r Cynllunwyr Goleuo a Fideo ar ôl y Noson i Westeion i adlewyrchu ar y broses.

• Bydd cyfle hefyd i’r Cynllunydd Goleuo a Fideo Dan Hyfforddiant gyfarfod ag adrannau eraill yn y theatr gan gynnwys ein Tîm Creu (Cynhyrchwyr, Rheolwr Cynhyrchu ac Arweinydd Cynhyrchu, Adran Goleuo, Adran Sain).

• Mynediad i wahanol feysydd o fewn Theatr Clwyd i gyflawni diddordebau penodol yr unigolyn a chefnogi ei ddatblygiad wrth ddeall meysydd eraill o waith y theatr.

• Cefnogaeth gan Asiant dros Newid Craidd yn Theatr Clwyd i gefnogi a datblygu ei ddealltwriaeth o sut mae'n llywio'r diwydiant fel crëwr theatr DDN.

• Cefnogaeth gan Gyfarwyddwr Stiwdio Clwyd gan gynnwys gwerthusiad llawn o'i leoliad, ysgrifennu adroddiadau a chreu Strategaeth Gadael i gefnogi ei ddatblygiad parhaus.


Os bydd y lleoliad yn cael ei ddyfarnu i chi, byddwn yn gweithio gyda chi i gefnogi eich anghenion mynediad. Byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen "Gweithio Gyda Fi" ac, os oes gennych chi un, darparu Dogfen Mynediad. Byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i deimlo'n gyfforddus a gweithio ar eich gorau.


I WNEUD CAIS

• CV cyfredol (dim mwy nag un ochr papur A4)

• Dolen i'ch gwefan neu bortffolio o waith

• Pam ydych chi'n teimlo y byddai hyn yn ddefnyddiol ar hyn o bryd ar eich siwrnai, sut fydd y cynhyrchiad yma’n cefnogi eich datblygiad fel cynllunydd goleuo a / neu fideo a beth fyddech chi'n gobeithio ei ddysgu o'r lleoliad yma? (300 gair / hyd at 3 munud o fideo)

• Pa gynllun neu gynllunydd goleuo a / neu fideo sydd wedi dylanwadu arnoch chi a pham? (200 gair / hyd at 2 funud o fideo)


Fel rhan o'r broses ymgeisio, rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni am unrhyw gymorth mynediad y gallech fod ei angen i fynychu'r cyfweliadau. Ni fydd y wybodaeth hon yn rhan o'r broses o lunio rhestr fer a dim ond os cewch eich rhoi ar y rhestr fer y caiff ei darllen. Gallwch naill ai ateb y cwestiwn neu ddarparu Dogfen Mynediad.


Dylech gynnwys manylion dau ganolwr hefyd – yn ddelfrydol, cydweithredwr creadigol a Chyfarwyddwr, Cynllunydd Goleuo neu Gynhyrchydd rydych chi wedi gweithio ag ef – er mai dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn cysylltu â’r rhain os byddwn yn mynd â'ch cais drwodd i gam olaf y broses.


Gallwn dderbyn ceisiadau ysgrifenedig neu fideo. Gallwn hefyd dderbyn ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Iaith Arwyddion Prydain.


Am wybodaeth am sut bydd eich cais yn cael ei sgorio a'r broses o lunio rhestr fer, edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin ar y wefan.


Cyflwynwch eich cais i – stiwdio@theatrclwyd.com


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page