Prentis Effeithiau Arbennig: Sgil Cymru
- cerys35
- 1 day ago
- 1 min read
Awdur: Sgil Cymru
Dyddiad cau: Dydd Iau 30 Hydref
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn ymuno â Real SFX fel Prentis Effeithiau Arbennig!
Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad ymarferol a bod yn rhan o dîm deinamig ym myd effeithiau arbennig, wrth weithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda Sgil Cymru. Mae'n rôl â thâl, wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Hydref, cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 3 Tachwedd a'r dyddiad cychwyn ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus fydd 1af Rhagfyr.
Mae'r disgrifiad swydd llawn, Cwestiynau Cyffredin a'r ffurflen gais ar gael ar wefan Sgil Cymru: https://sgilcymru.com/cy/12112-vbhaxs/