top of page

Craidd Lleoliadau Dan Hyfforddiant: Cynllunydd Set A Gwisg a Chynllunio Goleuo a Fideo

  • cerys35
  • Jul 29
  • 2 min read

Awdur: Craidd & Theatr Clwyd


Lleoliadau dan hyfforddiant mewn Cynllunio Setiau a Chynllunio Goleuo a Fideo ar gyfer crëwyr theatr Byddar, anabl a / neu niwroamrywiol sydd â chysylltiad â Chymru.


Lleoliadau Dan Hyfforddiant ar Under Milk Wood


Mae Partneriaeth Craidd yn gydweithrediad uchelgeisiol ledled y sector ar draws pum sefydliad theatr yng Nghymru sy'n ymroddedig i drawsnewid cynrychiolaeth DDN (Byddar, anabl a niwroamrywiol) mewn theatr prif ffrwd. Theatr Clwyd yw'r partner arweiniol yn y fenter hon a'r cynhyrchiad sydd i ddod o Under Milk Wood fydd y cynhyrchiad cyntaf yn y bartneriaeth.


Mae’n bleser cael cynnig cyfleoedd lleoliad mewn dau faes o'r cynhyrchiad ar gyfer crëwyr theatr talentog - Lleoliad Cynllunio Setiau Dan Hyfforddiant a Lleoliad Cynllunio Goleuo a Fideo Dan Hyfforddiant.


Dyddiad cau: 6yh ar ddydd Llun 18 Awst 2025


Dyddiad cau: 6yh ar ddydd Llun 3 Tachwedd 2025


Mae’r cynnig ar agor i grëwyr theatr (gyda ffocws penodol ar Gynllunwyr Setiau a Chynllunwyr Goleuo / Fideo) sydd â chysylltiadau cryf â Chymru oherwydd eu bod wedi'u geni, eu magu neu'n byw ar hyn o bryd yng Nghymru ac sy'n uniaethu fel naill ai Byddar, anabl a / neu Niwroamrywiol. Byddant yn elwa o becyn cefnogi unigryw a phwrpasol yn Theatr Clwyd drwy'r fenter Craidd.


Byddwn yn cynnig cyfle i'r crëwyr theatr yma ymgysylltu'n ddwfn â'n cynhyrchiad ni yn 2026 o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, dan gyfarwyddyd Kate Wasserberg. Bydd cyfle hefyd i'r crëwyr theatr archwilio eu creadigrwydd gan drafod gyda'r tîm Creu Theatr yn Theatr Clwyd.


Bydd y lleoliadau dan hyfforddiant yma’n llawn amser yn Theatr Clwyd o 26ain Ionawr i 20fed Mawrth 2026. Disgwylir i chi fod yn Theatr Clwyd yn llawn amser yn ystod y cyfnod yma.


I gael gwybodaeth fanylach am y lleoliad a'r broses ymgeisio, cliciwch ar y dolennau isod:






Sesiwn Holi ac Ateb:


Holi ac Ateb Cynllunio Goleuo a Fideo – 6pm – 8pm (amser y DU) ar ddydd Llun 20fed Hydref


Bydd y sesiwn yma gydag aelod o dîm Craidd, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, Cynhyrchydd Under Milk Wood Jenny Pearce ac aelod o'r tîm creadigol ar y cynhyrchiad. Bydd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau am y lleoliad a'r broses ymgeisio.


I gofrestru ar gyfer y sesiwn, anfonwch e-bost i stiwdio@theatrclwyd.com a byddwn yn cadarnhau eich lle ac yn anfon y ddolen atoch chi.


Dysgwch mwy yma.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page