top of page

COSI & SCRATCH

  • cerys35
  • Jul 21
  • 4 min read

Awdur: Pontio a Craidd


Mae Pontio a Craidd yn chwilio am waith newydd gan bedwar o artistiaid lleol! Dyma gyfle gyda thâl i ddechrau datblygu gwaith newydd gan artistiaid sydd yn creu gwaith byw (dawns, syrcas, theatr, comedi, cabaret ayyb). Mae hwn yn gyfle i unrhyw artist sy'n creu gwaith byw ar unrhyw adeg yn eu gyrfa.


Manylion llawn a sut i wneud cais yma: https://shorturl.at/e3mKA


Dyddiad cau: 17.08.2025



A oes gennych chi syniad newydd sy’n cosi ac yn dymuno amser i’w ddatblygu? Mae Pontio yn falch iawn o gynnig cyfle cyflogedig i bedwar artist weithio a dangos darn newydd o waith byw fis Hydref. Gall y gwaith fod mewn unrhyw genre byw e.e. Theatr, Syrcas, Dawns, Cabaret, Comedi, Sioe Gerdd neu unrhyw arddull fyw arall. Mae yna groeso i geisiadau sy’n gyfuniad o ffurfiau.


Cewch amser, cynulleidfa a chyflog i brofi a datblygu syniad newydd. Penllanw’r cyfnod datblygu bydd perfformiad Scratch yn Stiwdio Pontio, ar Nos Fercher 29 Hydref gyda chynulleidfa byw. Bydd tocynnau yn £5.


Rydym yn edrych am artistiaid sy’n byw yng Ngogledd Orllewin Cymru neu sydd â chysylltiadau cryf gyda’r ardal. Rydym yn awyddus i feithrin a chefnogi crewyr theatr, dawnswyr, ysgrifenwyr, perfformwyr lleol.


Rydym y croesawu ceisiadau gan artistiaid yn ystod unrhyw gyfnod o’u gyrfa.


Beth i’w ddisgwyl:


Rydym yn cynnig cyflog i’r prosiect yma. Gallwn hefyd gynnig un diwrnod yn un o’n gofodau yn yr wythnos sy’n arwain at y perfformiad. Bydd naw wythnos rhwng gwybod eich bod yn llwyddiannus yn eich cais a dyddiad y perfformiad. Bydd eich perfformiad yn bymtheg munud neu lai. Wedi’ch perfformiad bydd cyfle i’r gynulleidfa gwblhau adborth am y darn a welsant. Byddwn yn trefnu efo chi sut i dderbyn yr adborth wedi'r perfformiad.


Cynnig Pontio:


£600 – Ffi i’r artist. Gallwch ddefnyddio’r ffi fel y mynnwch, gan wahodd artistiaid eraill i ymuno â chi. Dyma’r ffi llawn ar gyfer un cais i artist / prosiect.

(Os bydd y ffi yma’n amharu ar eich budd-daliadau anabledd neu unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu derbyn, gallwn drafod opsiynau sy’n golygu bod y broses ymgeisio ym hygyrch i bawb.)

• Un Diwrnod mewn gofod yn Pontio

• Delweddau proffesiynol o’ch perfformiad

• Cynulleidfa ac adborth

• Tocynnau braint i’r perfformiad


Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:


Mae Pontio a Craidd yn gweithio mewn partneriaeth i ymrwymo i gynrychioli artistiaid Byddar, Anabl a Niwroamrywiol.


Er mwyn lleihau rhwystrau systemig i gyfleoedd proffesiynol ac i sicrhau amrywiaeth eang o leisiau a safbwyntiau gwahanol, bydd rhai o’r comisiynau yn cael eu dynodi ar gyfer artistiaid sydd â phrofiad byw neu'n uniaethu gyda’r canlynol:


• Bydd o leiaf un comisiwn yn cael ei wobrwyo i artist Byddar, Anabl neu Niwroamrywiol

• Bydd o leiaf un comisiwn yn cael ei wobrwyo i artist sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg neu’n Ddwyieithog


Noder: Nid yw hyn yn cyfyngu’r dewis, fe all y pedwar llwyddiannus ffitio’r ddau bwynt uchod. Ond, rydym yn nodi hyn i sicrhau cynrychiolaeth.


Rydym hefyd yn annog artistiaid sy’n dod o gefndir cyflog isel neu’n uniaethu fel person o gefndir economaidd-cymdeithasol isel i ymgeisio. A’r rhai sydd wedi dod ar draws rhwystrau i’r diwydiant creadigol oherwydd diffyg braint. (Gall braint fod yn Gyfoeth Ariannol, Eiddo Tai neu Rwydweithiau.)


Y Cais:


Gallwch ymgeisio yn ysgrifenedig, trwy fideo neu fformat glywedol. Neu, pe byddai’n well gennych gyflwyno’ch syniad wyneb yn wyneb, gallwch drefnu amser gyda Nikki Hill, Asiant Dros Newid ar Ddydd Iau 14 Awst. Gofynnwn ichi gadw’r cyflwyniad i bymtheg munud, a gall fod mewn unrhyw arddull yr hoffech. Byddwn yn recordio’r cyflwyniad er mwyn ei gyflwyno i’r panel dethol.


Dyddiadau Pwysig:


  • Dyddiad Cau (Ysgrifenedig, Clywedol neu Fideo): Dydd Sul 17 Awst am Hanner Nos

  • Cyflwyniad wyneb yn wyneb: Dydd Iau 14 Awst

  • Ceisiadau Llwyddiannus yn cael eu hysbysu: Dydd Gwener 22 Awst

  • Un diwrnod o ymarfer yn Pontio: Dydd Sadwrn 25 – Dydd Mawrth 28 Hydref

  • Diwrnod Technegol a Pherfformiad: Dydd Mercher 29 Hydref

  • Sesiwn Adborth a Gofal (4 awr): Dydd Mawrth 4 o Dachwedd, 11am – 3pm

(Bydd ffi ychwanegol o £80 ar gyfer y sesiwn yma)


Hygyrchedd:


Mae yna gyllideb ar wahân ar gyfer hygyrchedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw anghenion hygyrchedd sydd gennych chi fel artist yn ystod y broses o greu, yn ogystal â darpariaeth i’r darn fydd yn cael ei berfformio. Efallai fydd angen cyfieithydd BSL, Disgrifiad Sain, Gweithwyr Cynorthwyol neu unrhyw cymorth hygyrchedd arall. Mae croeso ichi gysylltu â Nikki i drafod hyn ymhellach.


Cydnabod Llawryddion:


Mae Pontio wedi ymuno gydag addewid yr ymgyrch ‘Nothing for Nothing’ sy’n cydnabod gwaith llawryddion yn y diwydiant creadigol a faint o waith sy’n cael eu wneud am ddim. Mae gwneud ceisiadau am gomisiynau yn llafurus ac yn ran mawr o fod yn llawrydd, ond ei fod yn waith di-dal yn aml iawn. Yn anffodus, ni allwn talu am y broses ymgeisio i Cosi & Scratch, ond rydym wedi ceisio gwneud y broses mor syml ag sy’n bosib. Bydd unrhyw un sy’n gwneud cais, yn derbyn tocyn sinema am ddim i Sinema Pontio.


Cwestiynau:


Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, cysylltwch â Nikki ar: Nikki.hill@craidd.cymru

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page