Cripping Culture: A Journey into Disability Arts Heritage
- 4 days ago
- 2 min read
Awdur: Disability Arts Online
Mae ‘Cripping Culture: A Journey into Disability Arts Heritage’ yn brosiect treftadaeth sylweddol dan arweiniad Disability Arts Online (DAO), a lansiwyd yn 2026.
Nod y prosiect yw ymchwilio a datgelu cyflawniadau'r artistiaid a'r ymgyrchwyr anabl a roddodd hawliau anabledd ar y map, o ddiwedd y 1970au ymlaen. (Mae cripping, fel queering, yn defnyddio gair wedi'i ailgydio i rhoi lens anabledd i ddiwylliant.) Dros dair blynedd, bydd Disability Arts Online yn casglu atgofion gan bobl sy'n ymwneud â'r mudiad Celfyddydau Anabledd, gan gofnodi straeon heb eu hadrodd o'r blaen a sgleinio goleuni newydd ar adegau allweddol yn ei hanes. Bydd y rhain yn cael eu rhannu trwy archif ddigidol hygyrch, llinell amser rhyngweithiol a chyfres o bodlediadau.
Galwad am gyfraniadau
Fel rhan o Cripping Culture, rydym am i chi rannu'r prosiectau a'r digwyddiadau celfyddydau anabledd mwyaf arwyddocaol rydych chi wedi bod yn rhan ohonynt neu wedi'u profi. Rydym am wybod sut y gwnaethon nhw gyfrannu at eich bywyd chi a'r mudiad Celfyddydau Anabledd. Bydd y rhain yn chwarae rhan bwysig yn y straeon a adroddir trwy brosiect Cripping Culture, gan achub ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gallai eich cyfraniad fod am ddigwyddiad, sioe neu arddangosfa y gwnaethoch chi fynychu, rhywbeth y gwnaethoch chi ei ddarllen, artist y gwnaethoch chi ei gyfarfod, sefydliad yr oeddech chi'n ymwneud ag ef neu unrhyw beth arall sy'n gysylltiedig â chelfyddydau anabledd. Efallai eich bod chi'n artist, yn awdur, yn gynhyrchydd, yn berfformiwr, yn guradur, yn gerddor, yn ymgyrchydd neu'n aelod o'r gynulleidfa. Does dim ots pwy ydych chi, cyn belled â bod gennych chi stori i'w hadrodd sy'n ymwneud â chelfyddydau anabledd yn y DU, rydyn ni eisiau clywed ohonoch chi.
Cyflwynwch eich cyfraniad yma: https://disabilityarts.online/cripping-culture/submit-your-disability-arts-memory/



