top of page

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol DAC

Dydd Mercher 9 Hyfred 2024 4.30 - 5.30yh

IAP: Cathryn McShane

Cofrestrwch yma cyn 4 Hydref 2024: https://bit.ly/DACAGM24


Bydd chweched Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Celfyddydau Anabledd Cymru, Rhif Elusen Gofrestredig 1175678, yn cael ei gynnal ddydd Mercher 9 Hydref 2024 4.30 i 5.30 y.h.


Er mwyn galluogi cymaint o aelodau â phosibl i gymryd rhan, byddwn yn cynnal y cyfarfod hwn dros Zoom. Bydd capsiynau a BSLI ar gael.


Bydd hefyd perfformiadau gan Aelodau DAC Jo Munton, Maggie Hampton, ac Emily Rose yn ystod y digwyddiad.


Gallwch gyrchu'r llythyr Gwahoddiad, Agenda, Adroddiad Blynyddol, Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol, a manylion yr aelodau sy'n cael eu henwebu i gael eu penodi'n Ymddiriedolwyr yma.


Os na allwch gyrchu'r ffolderau, cysylltwch â post@dacymru.com a byddaf yn trefnu i'r wybodaeth gael ei hanfon trwy e-bost.

 

Gan y bydd pleidlais i benodi Ymddiriedolwyr yn y cyfarfod mae'n hanfodol bod cworwm i’r cyfarfod neu ein bod wedi derbyn digon o bleidleisiau dirprwyol felly rydym yn gobeithio y byddwch chi'n gallu cefnogi'r CCB eleni naill ai trwy ymuno â'r digwyddiad Zoom neu trwy lenwi a dychwelyd eich pleidlais drwy ddirprwy.


Diolch am eich cefnogaeth barhaus o DAC.


Cofrestrwch yma cyn 4 Hydref 2024: https://bit.ly/DACAGM24

10 views

Related Posts

See All

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page