top of page

Fforwm Theatr Anabledd Same Hat

Dydd Iau 3 Hydref, 1-2yp

Dehongliad IAP: Claire Anderson


Wythnos nesaf, mae gennym ni fforwm theatr Anabledd gyda chwmni theatr wych Same Hat, sy’n cael ei redeg gan aelodau DAC Poppy Horwood a Macsen McKay. Mae hwn yn ddigwyddiad ar gyfer aelodau DAC yn unig!


Dewch draw i drafod rhwystrau o fewn y diwydiant theatr. Byddwn yn cynnal trafodaeth agored am theatr Anabledd gyda Same Hat wrth iddynt rannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu hyd yn hyn yn eu proses greadigol.


Bydd hwn yn adnodd hynod ddefnyddiol i wneuthurwyr theatr i gyd!


Byddwn yn cael dehongliad IAP gan y dehonglwr bendigedig Claire Anderson.


Meddai Same Hat:

"Rydym wrth ein bodd am y cyfle hwn i gwrdd â phobl greadigol anabl eraill, cronni gwybodaeth a phrofiadau o fewn y gymuned, a thrafod atebion creadigol i'r rhwystrau y mae llawer ohonom yn eu hwynebu yn y diwydiant."

1 view

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page