Deaf Gathering Cymru 2025
- cerys35
- 7 days ago
- 1 min read
Awdur: Chapter
Gŵyl dan arweiniad pobl fyddar yng Nghaerdydd yw Deaf Gathering Cymru gyda Deaf Gwdihŵ, Heather Williams a Jonny Cotsen, a Chapter.
Mae’r dathliad tri diwrnod o 21-23 Tachwedd ar agor i bawb, ac yn cynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.
Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.
Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ddawns, trafodaethau a gweithgareddau i’r teulu, i ffilmiau, perfformiadau a chabaret.
Cynhelir Deaf Gathering Cymru gan Chapter a Deaf Gwdihŵ, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn falch iawn taw ein Prif Noddwr eleni yw Deaf Health Wales.



