Digwyddiad hamddenol yn Oriel Colwyn: cwrdd â'r ffotograffydd Rolf Kraehenbuehl
- cerys35
- Jun 10
- 2 min read

Celfyddydau Anabledd Cymru & TAPE. Cwrdd â'r ffotograffydd mewn amgylchedd hamddenol.
Dyddiad: Dydd Iau 26ain Mehefin
Amser: 14:00 - 15:00
Mae Oriel Colwyn ym Mae Colwyn ar hyn o bryd yn dangos prosiect ffotograffiaeth analog Rolf Kraehenbuehl “Corpus | Delicti”.
Mae Paul Sampson, curadur Oriel Colwyn, a Rolf yn gwahodd aelodau a staff Celfyddydau Anabledd Cymru a TAPE am ymweliad preifat dan arweiniad â’r arddangosfa.
Mae'r prosiect yn delweddu profiad y ffotograffydd o bromenadau a'r amgylchedd adeiledig mewn lleoliadau glan môr. Mae'n archwiliad o sut y mae'n bosib defnyddio'r deunydd ffotograffig i gofnodi olion heblaw golau, o fateroliaeth yr hyn sy'n cael eu ffotograffu, a sut y mae'n bosib adlewyrchu a chofnodi hyn o fewn delweddau.
Am fwy o wybodaeth: https://orielcolwyn.org/en/Exhibitions/CorpusDelicti.aspx
Mae goleuadau newydd yr oriel yn caniatáu addasu lefelau golau, mae cadeiriau ar gael yn yr arddangosfa, ac mae lluniaeth ar gael o Far y Theatr.
Rydym yn gallu darparu disgrifiadau ffeithiol o'r ffotograffau, a chynnig agoslun o'r printiau'n os oes angen.
Parcio – mae mannau gollwng a chasglu yn Theatr Colwyn. Mae hyn yn cynnwys parcio ar y briffordd y tu allan i'r theatr (terfyn o 2 awr) ac ar Douglas Road gyferbyn, sydd hefyd yn cynnig maes parcio talu ac arddangos.
Bws – mae bws rhif 12 yn rheolaidd ac yn gollwng yn agos at y theatr, tua 1 munud i ffwrdd i gerdded.
Mynediad – Mae Oriel/Theatr Colwyn yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gyda mynediad ramp parhaol i'r adeilad, drws ffrynt awtomatig gyda botwm i wthio, rhan lefel isel o'r swyddfa docynnau, lifft i bob lefel o'r adeilad heb risiau, toiledau hygyrch a mannau pwrpasol yn yr awditoriwm ar gyfer cadeiriau olwyn.
Toiledau – Mae toiledau a chyfleusterau yn Theatr Colwyn sy'n hygyrch ac sydd wedi'u harwyddo'n glir.
Larymau Tân (diogelwch) - Mae larymau brys yn Theatr Colwyn yn cyfathrebu â staff, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd b/Byddar, pobl â nam ar eu golwg, pobl niwroddargyfeiriol. Mae larymau clywedol a gweledol ac mae staff wedi'u hyfforddi'n llawn mewn technegau ymgiliad. Am anghenion mynediad penodol, cysylltwch â Paul ar yr ebost: curator@orielcolwyn.org