top of page

Diolch am eich rhoddion hyd yn hyn!

  • cerys35
  • Sep 18, 2024
  • 1 min read

Updated: Sep 25, 2024

Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, mae ein rheolwr Cyllid a Gweinyddiaeth anhygoel, Sue Pound, yn ymddeol. Mae Sue wedi bod yn gefnogaeth anhygoel i'r aelodau ac i'r tîm cyfan. Rydyn ni'n mynd i'w cholli hi'n fawr!


Dywedodd Sue:

'Ar ôl bron i 8 mlynedd  fel Rheolwr Cyllid a Gweinyddu, byddaf yn ymddeol o DAC ar 30 Medi 2024.
Rwyf wedi mwynhau fy amser yn y rôl yn fawr ac mae wedi bod yn wych gweld yr aelodaeth yn tyfu, cyflawni llawer o brosiectau llwyddiannus a gweld y Sefydliad yn llwyddo i gael cyllid parhaus gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn Adolygiad Buddsoddi y llynedd.
Wrth i mi adael hoffwn ddiolch i dîm DAC , ei Fwrdd a'i aelodau am eu cefnogaeth a dymuno llwyddiant a thwf parhaus i'r Sefydliad. Edrychaf ymlaen at weld pa bethau cyffrous sy’n digwydd yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
Hoffwn godi arian i helpu'r mudiad cyn i mi fynd bant i'r machlud haul.'


Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn, a diolch enfawr i Sue am bopeth!





 
 

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page