g39 yn Chwilio am Ymddiriedolwyr Newydd
- cerys35
- 8h
- 1 min read
Awdur: g39
Dyddiad cau: 07/01/2026
Mae g39 yn recriwtio hyd at dri o ymddiriedolwyr i’w bwrdd. Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i lywio g39 i’r dyfodol, mewn cydweithrediad agos â thîm g39 a’r ymddiriedolwyr eraill.
Mae g39 yn gartref i oriel, cronfa adnoddau a chymuned greadigol sy’n cael ei rhedeg gan artistiaid. Fe’i sefydlwyd Nghaerdydd a daeth yn elusen yn 2019. Mae artistiaid a’r gymuned wrth wraidd gwaith g39. O breswyliadau i hyfforddiant a mentora, cynulliadau cymdeithasol neu wireddu arddangosfeydd uchelgeisiol i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd – ein nod yw annog a galluogi pawb sy’n awyddus i ddilyn ymarfer celf weledol.
Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd sy’n llawn cyffro i gymryd rhan yn ein gwaith. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os oes gennych brofiad o’r canlynol: dulliau adnoddau dynol sy’n canolbwyntio ar bobl; cefndir o reoli mewn sefydliadau yn y sector diwylliannol; cyllid elusennol a/neu godi arian; marchnata creadigol; cynhyrchu celf weledol gyfoes.



