top of page

Galwad Agored: Sylwi ar y Dirwedd Y Bont sy'n Cysylltu - Canal & River Trust

Awdur: Canal & River Trust

Dyddiad Cau: 4 Hydref


Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan weithwyr creadigol proffesiynol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i greu gwaith/gweithiau celf ar hysbysfyrddau sy’n rhoi tirweddau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Ngogledd Cymru mewn cyd-destun newydd. Bydd yr hysbysfyrddau yn cael eu harddangos fel gweithiau celf dros dro fel rhan o ddigwyddiad dathlu ar gyfer Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd: Y Bont sy'n Cysylltu gan Glandŵr Cymru. 


Rhedir Y Bont sy’n Cysylltu gan Glandŵr Cymru ac mae wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy Gyngor Bwrdeistref Wrecsam.


Pwy all Ymgeisio

  • Gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol

  • Maent yn byw ac yn gweithio yng Nghymru neu mae ganddynt bractis wedi'i leoli yng Nghymru


Ffi Artist

Ffi yr artist yw £1,000 yr artist. Bydd treuliau a chostau teithio hefyd yn cael eu talu hyd at £200.


Rhagwelwn y bydd y cyfle’n cefnogi tua 3 diwrnod o waith wedi’i ddosrannu (yn amodol ar a yw’r gwaith yn ymateb newydd neu’n ailgread o waith, ymarfer/ syniad sy’n bodoli’n barod) 0.5 ymchwil pen desg, 0.5 diwrnod o ymweliad safle os oes angen a 2 ddiwrnod ar gyfer cynhyrchu.  


Sut i wneud cais:

I wneud cais am yr alwad agored hon defnyddiwch y ffurflen ganlynol i gyflwyno eich mynegiant o ddiddordeb.  Bydd artistiaid wedyn yn cael eu rhoi ar restr fer ac yna’n cael y cyfle:


Related Posts

See All

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page