top of page

Ghost - Rightkeysonly and Dei's second collaborative track

  • cerys35
  • Nov 12
  • 1 min read

Yr ail gydweithrediad rhwng aelod DAC yr artist EDM Rightkeysonly a'r artist Cymraeg Dei yw Ghost, cymysgedd chwareus o'r brawychus a'r synhwyrus.




Rightkeysonly:


Mae Rightkeysonly yn artist EDM, sy'n adnabyddus am ddod â beats arbrofol a baselines trwm i sector cerddoriaeth Cymru. Hi yw sylfaenydd Amplifying Accessibility, prosiect sy'n cefnogi gweithwyr anabl yn y diwydiant cerddoriaeth i ffynnu yng Nghymru.


Mae Keys yn defnyddio cerddoriaeth i rymuso artistiaid Anabl eraill, fel hi, gyda'r gobaith o weld sector mwy cynhwysol un diwrnod.


Dei:


Artist dwyieithog iaith Cymraeg a’r Saesneg, mae Dei yn ysgrifennu cerddoriaeth electronig delynegol, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliant Cymru, a’i gefndir ei hun mewn Theatr Gerdd.


Yn dilyn rhyddhad ei sengl gyntaf, Multilingual, mae Dei wedi gweithio fel cyfieithydd ac ymchwilydd i wahanol sefydliadau cerddoriaeth yng Nghymru. Mae e hefyd yn ysgrifennu caneuon gwirion am ysbrydion rhywiol o bryd i'w gilydd.


Am fwy o gynnwys brawychus, gan gynnwys ysbrydion sy'n 'voguing', llygaid laser a llawer o sgrechian dramatig, dewch o hyd i gyfres fer Ghost ar Instagram: GHOST TRAILER


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page