Hiraeth / Lost Roots
- cerys35
- Jul 21
- 1 min read
Awdur: Hedydd Dance Company
14:30 & 19:00 Dydd Sadwrn 16 Awst
Taflen sain:
Taith bwerus o berthyn gan Gwmni Dawns Hedydd
Ble y dechreuwn ni, a beth y gadwn ar ôl?
Hiraeth, Lost Roots yw perfformiad dawns fertigol cyfareddol sy'n dechrau ar drothwy'r cartref ac yn gorffen lle mae natur yn ein hadennill. Wrth groesi moroedd, mynyddoedd ac ymgamu i goedwigoedd hynafol, mae pedair menyw yn dilyn edafedd hunaniaeth, ymfudiad a chof—gan asio straeon personol gyda mytholeg Geltaidd, Roegaidd ac Wcreinaidd.
Gyda cherddoriaeth fyw wefreiddiol a naratif barddonol gan Eadyth Crawford, mae’r profiad trochi hwn yn eich gwahodd i gamu i fyd lle mae'r ffiniau rhwng chwedl a chof yn pylu.
Yn gwbl hygyrch i gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg
Set ryngweithiol—archwiliwch cyn i'r perfformiad ddechrau
Gadewch i’r stori eich symud—yn gorfforol ac yn emosiynol.
Gweithdai a Taith Gyffwrdd ar gael. Cysylltwch âhedyddcyf@gmail.comi archebu lle. Llefydd cyfyngedig ar gael.
Gyda chefnogaeth gan:
Cyngor Celfyddydau Cymru, VDKL, Galeri Caernarfon Cyf, Pontio, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion, Celfyddydau Anabledd Cymru



