Shape Arts: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyfnod preswyl hybrid a bwrsari o £5k
- cerys35
- Jul 22
- 1 min read
Awdur: Shape Arts
Dyddiad cau: 11:59 yh, Dydd Sul 10 Awst
Mae Baltic a Shape Arts yn gwahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol anabl yn pum mlynedd gyntaf eu gyrfa i gymryd rhan mewn rhaglen breswyl tair mis o hyd. Mae Emergent yn cyfuno elfennau digidol a chorfforol o ddarpariaeth, gyda chefnogaeth y ddau sefydliad.
Gan dderbyn gwobr o £5,000, bydd yr artist a ddewisir yn cymryd rhan mewn cyfnod preswyl lle, yn ogystal â derbyn cefnogaeth a mentora arbenigol i lywio eu hymarfer, gallant ddefnyddio cyfleusterau a mewnbwn curadurol i ddatblygu gwaith celf newydd neu bresennol. Darperir cyfle i arddangos neu ddarlledu eu gwaith fel rhan o'r rhaglen.
Bydd pecyn cymorth hefyd yn cael ei gynnig i nifer fach o artistiaid ar y rhestr fer.
Mwy o wybodaeth ac ymgeisio: https://www.shapearts.org.uk/Blog/emergent-2025-call-out