top of page

'Homebody' gan aelod DAC Tracey McMaster

Mae aelod DAC Tracey McMaster wedi bod yn gweithio tuag at gorff newydd o waith o'r enw 'Homebody' sy'n cael ei ddangos ar draws dwy oriel ar yr un pryd: Elysium, Abertawe a Cardiff MADE.


Gweler dyddiadau ac amseroedd isod yn ogystal â dolenni i wybodaeth am yr arddangosfeydd:


Homebody @ elysium Abertawe Celf yn y Bar

PV Chwefror 7, 2025 7:00 yh  – Mawrth 29, 2025


New Voices @ Cardiff MADE

PV Chwefror 8, 2025 2yp ymlaen - Mawrth 9 2025


Mae Tracey McMaster yn cyflwyno cyfres newydd o beintiadau o’r enw “Homebody” ar gyfer yr arddangosfa celf yn y bar diweddaraf yn oriel elysium. Mae ‘Homebody’ yn myfyrio ar bersbectif symudol yr artist trwy themâu bod, perthyn, colled a’r corff.


Disgrifia Tracey ei phroses beintio fel un awtomatig, gan chwarae gyda phaent trwy haenu, stwnsio, adeiladu ac arbrofi gydag arwynebau trwy eu trochi mewn dŵr môr neu eu gadael allan yn y glaw. Mae gweithiau Tracey yn aml yn ffigurol, eglura, “Rwy’n meddwl am fy mherthynas ag eraill, cryfder y teimladau hynny a sut y gallant gael eu hangori gan le ac amser ac eto’n hofran hefyd. Rwy’n archwilio’r eiliadau hyn o ailgysylltu yn fy mheintiadau, i’r hunan, i’r isymwybod, i eraill.”


Mwy o wybodaeth am waith Tracey's:

Instagram: @artoftracey

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page