top of page

Oriel Myrddin: Cyfarwyddwr Oriel

  • Jun 17
  • 4 min read

Awdur: Oriel Myrddin


Y rôl:


Bydd y rôl arweinyddiaeth uwch hon yn siapio gweledigaeth, strategaeth a dyfodol yr oriel wrth i ni sefydlu ein hunain fel Sefydliad Elusennol Integredig annibynnol ac agor ein hadeilad newydd a adnewyddwyd. Byddwch yn arwain tîm medrus, goruchwylio rhaglen uchelgeisiol o gelf weledol gyfoes, crefft a dylunio, tyfu cynulleidfaoedd a phartneriaethau, ac yn lleoli Oriel Myrddin o fewn bywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt.


Os ydych chi'n arweinydd hyderus, sy'n edrych allan, gyda brwdfrydedd am gelf gyfoes, ymgysylltiad cynhwysol, a chynaliadwyedd hirdymor, ac yn gyffrous i siapio dyfodol un o orielau blaenllaw Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.


Pwrpas y Rôl:


Bydd y Cyfarwyddwr yn arwain Oriel Myrddin yn ystod y flwyddyn gyntaf fel sefydliad annibynnol, gan lywio’r cam nesaf hwn o ddatblygiad, ailgysylltu a chynnydd. Gan adrodd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, bydd y Cyfarwyddwr yn gyfrifol am siapio a chyflwyno a chyflawni gweledigaeth, strategaeth, partneriaethau, proffil a chynaladwyedd hir dymor yr Oriel. Drwy weithio gyda thîm cyflwyno a chyflawni cadarn ar draws ymarfer curadurol, ymwneud, profiad ymwelwyr, marchnata a chyllid, bydd y Cyfarwyddwr yn darparu’r arweiniad strategol, capasiti codi arian a’r safle sector sydd eu hangen i symud y sefydliad ymlaen.


Cyfrifoldebau Allweddol:


Arweiniad Strategol a Gweledigaeth


  • Diffinio a dehongli gweledigaeth uchelgeisiol, hir dymor, glir ar gyfer yr Oriel.

  • Arwain datblygiad, cyflwyno a chyflawni strategaeth gyfundrefnol integredig.

  • Gweithio’n agos gyda’r Bwrdd er mwyn sicrhau llywodraethiant ac atebolrwydd cadarn.

  • Sefydlu amcanion clir, mesurau perfformiad a fframweithiau gwerthusiad.

  • Sefydlu diwylliant clir gydag uchelgais, cyflwyniad a chyflawniad ar draws y sefydliad.


Arbenigedd Codi Arian


  • Datblygu a chyflwyno a chyflawni strategaeth codi arian gynhwysfawr.

  • Sicrhau incwm gan brif gyllidwyr yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau, sefydliadau a phartneriaid.

  • Amrywiaethu ffrydiau incwm er mwyn cryfhau gwytnwch cyllidol.

  • Adeiladu a goruchwylio cysylltiadau gyda rhoddwyr, noddwyr a chefnogwyr.

  • Sefydlu meddylfryd codi arian ar draws y sefydliad.


Craffter Masnachol


  • Arwain datblygu incwm a enillir ym maes manwerthu, lletygarwch, digwyddiadau a gweithgaredd y lleoliad.

  • Goruchwylio cynllunio cyllidol, cyllido a pherfformiad.

  • Datblygu partneriaethau masnachol yn cyd-fynd â chenhadaeth a gwerthoedd.

  • Llywio ymwybyddiaeth ac atebolrwydd cyllidol ar draws y tîm.

  • Cadw cydbwysedd rhwng datblygu masnachol a gwerth artistig a chyhoeddus.


Arbenigedd Codi Arian


  • Datblygu a chyflwyno a chyflawni strategaeth codi arian gynhwysfawr.

  • Sicrhau incwm gan brif gyllidwyr yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau, sefydliadau a phartneriaid.

  • Amrywiaethu ffrydiau incwm er mwyn cryfhau gwytnwch cyllidol.

  • Adeiladu a goruchwylio cysylltiadau gyda rhoddwyr, noddwyr a chefnogwyr.

  • Sefydlu meddylfryd codi arian ar draws y sefydliad.


Arweiniad Rhaglen


  • Pleidio achos rhaglen nodedig o gelf weledol crefft a dylunio cyfoes o ansawdd uchel.

  • Gweithio’n agos gyda’r Cynhyrchydd Creadigol er mwyn siapio cyfeiriad curadurol.

  • Sicrhau rhaglen sy’n adlewyrchu hygyrchedd, cyfranogaeth a rhagoriaeth.

  • Datblygu partneriaethau gydag artistiaid, curaduron a sefydliadau.

  • Trefnu rhaglen sy’n cyd fynd â datblygu cynulleidfa a strategaeth gyfundrefnol.


Traweffaith Sector a Rhwydwaith


  • Gweithredu fel eiriolwr gweledol ar gyfer yr Oriel tu fewn Cymru a’r DG.

  • Adeiladu perthynas gydag artistiaid, sefydliadau, prifysgolion a rhwydweithiau.

  • Cryfhau proffil cenedlaethol a chyfraniad sector yr Oriel.

  • Gosod y sefydliad o fewn agendâu dinesig a diwylliannol ehangach.

  • Cynrychioli’r Oriel gyda hygrededd, awdurdod a dylanwad.


Y Gymraeg a Chyd-destun Diwylliannol


  • Bod yn eiriol dros yr iaith a’r diwylliant Cymraeg a’u pwysigrwydd yn Sir Gaerfyrddin a bywyd diwylliannol ehangach yng Nghymru.

  • Arwain sefydliad dwyieithog gan sicrhau bod y Gymraeg wedi’i gosod yn gadarn ar draws gweithgaredd cyhoeddus, cysylltiadau a diwylliant mewnol.

  • Sicrhau bod yr Oriel yn adlewyrchu ac yn gwasanaethu ei chymuned ddwyieithog yn y rhaglen a hefyd ym mhrofiad y gynulleidfa.

  • Creu’r amodau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg ar draws y sefydliad, a chefnogi staff, artistiaid a chynulleidfaoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.


Manyleb y Person:


Hanfodol:


  • Profiad uwch arweinyddiaeth yn y sector creadigol neu ddiwylliannol.

  • Prawf o allu i arwain sefydliadau drwy newidiadau neu dwf.

  • Rheolaeth gyllidol gadarn a thystiolaeth o godi arian.

  • Profiad o sicrhau incwm gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a phrif gyllidwyr.

  • Gwybodaeth o gelf weledol gyfoes neu faes tebyg.

  • Sgiliau ardderchog mewn cyfathrebu ac adeiladu partneriaethau.

  • Profiad o arwain, rheoli a datblygu timau, yn cynnwys rheoli perfformiad a dealltwriaeth gadarn o arferion cyflogaeth.

  • Ymrwymiad i gynhwysiad, hygyrchedd a gwerth cyhoeddus.


Dymunol:


  • Profiad yn y sector celf weledol neu orielau.

  • Gwybodaeth ynglŷn â thirwedd ddiwylliannol Cymru.

  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol iawn; dylai ymgeiswyr fod yn fodlon i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg os nad ydynt yn siarad Cymraeg eisoes.

  • Profiad o adeiladu proffil cenedlaethol a phartneriaethau.


Tâl a Buddion:


Cyflog: £40,000–£45,000 y flwyddyn (gan ddibynnu ar brofiad).


Rydym wedi’n hymrwymo i ddenu’r ymgeisydd addas ac yn agored i drefniadau gweithio hyblyg - yn cynnwys wythnos bedwar diwrnod neu fodelau eraill – lle mae hyn yn cefnogi apwyntiad eithriadol.


Cyfraniad pensiwn

Amgylchedd gwaith hyblyg

Cyfle i arwain sefydliad nodedig ar gyfnod arwyddocaol


Cysylltwch / Y Camau Nesaf:


Rydym yn croesawu sgyrsiau anffurfiol gyda darpar ymgeiswyr. Os hoffech drafod y rôl mewn manylder, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda:

David Wilson

Cyfarwyddwr Dros dro, Oriel Myrddin


Er mwyn ymgeisio, e-bostiwch director@orielmyrddin.com gyda’r canlynol:

  • A CV (maximum 3 pages)

  • A covering letter (maximum 2 pages)


Dyddiad cau: 10:00yb, dydd Llun 29 Mehefin

Cyfweliadau: wythnos yn ddechrau 13 Gorffennaf


Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl, gyda hyblygrwydd i’r ymgeisydd cywir


Mae hon yn rôl arwain gyda phosibiliadau go iawn – siapio sefydliad, diffinio ei ddyfodol, a chryfhau ei safle ym mywyd diwylliannol Cymru. Edrychwn ymlaen at glywed gennych


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page