top of page

Prosiect Theatr Amend

  • cerys35
  • Oct 15
  • 1 min read

Awdur: Amend


Ar gyfer mis hanes anabledd. Rydym yn chwilio am bobl niwrowahanol i gymryd rhan mewn darlleniad hamddenol o ddarn theatr byr am yr yswain Hugh Blair o Borgue, dyn niwrowahanol o'r ddeunawfed ganrif. Mae hyn yn rhan o brosiect ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n defnyddio’r theatr i ymgysylltu â hanes Niwrowahaniaeth, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae'r ymchwil hon wedi cael cymeradwyaeth foesegol gan bwyllgor moeseg y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a'r rhif cymeradwyaeth yw 2 2025 14083 14089.


Mae'r astudiaeth yn cynnwys cymryd rhan mewn darlleniad hamddenol o ddrama ac yna ateb holiadur byr am eich profiad. Nid oes angen sgiliau actio na gwybodaeth hanesyddol blaenorol.


Cynhelir yr astudiaeth hon ar 18 Tachwedd 2025 rhwng 1 a 3pm yn stiwdio Taliesin, Prifysgol Abertawe, Campws Singleton.


Os ydych chi'n uniaethu fel rhywun niwrowahanol, dros 18 oed, ac yn dymuno cymryd rhan, anfonwch e-bost at Dr Laura Seymour laura.seymour@abertawe.ac.uk i gadw eich lle.


Darperir cinio, eitemau bach i chwarae â nhw, fersiynau print bras o'r holl ddeunyddiau ysgrifenedig, a lle tawel. Caiff treuliau teithio rhesymol eu had-dalu. Rydym yn eich annog i roi gwybod i ni am anghenion hygyrch eraill sydd gennych.


Os oes gennych gwestiynau am yr ymchwil hon, e-bostiwch Laura Seymour.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page