Swyddi Wag Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- 3 days ago
- 3 min read
Awdur: RWCMD
Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau
Dyddiad cau: 12/08/26
Bydd y Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau yn gweithio gydag ysgolion a cholegau Addysg Bellach, yn enwedig ar draws Cymru a De-orllewin Lloegr. Byddwch chi'n cefnogi ein gwaith i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd addysg uwch drwy brosiectau ymyrraeth targedol, gan hyrwyddo manteision astudio cerddoriaeth a drama i gymunedau lleol a chenedlaethol
O dan arweiniad y Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr (Y DU), byddwch yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, rhieni, gofalwyr a dylanwadwyr Byddwch chi'n adeiladu, rheoli, cynnal a datblygu perthynas gref gydag athrawon ac chynghorwyr mewn ysgolion, colegau a phartneriaid allweddol eraill. Yn ogystal â chefnogi amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer darpar fyfyrwyr mewn lleoliadau cymunedol, byddwch chi hefyd yn chelpu i gyflwyno gweithdai a digwyddiadau ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid a gynhelir ar y campws.
Byddwch chi’n hyrwyddo hyfforddiant y Coleg i ddarpar fyfyrwyr a dylanwadwyr allweddol, ac yn helpu i greu deunyddiau marchnata i hyrwyddo gwaith recriwtio myfyrwyr a gweithgareddau ymgysylltu eraill mewn ysgolion a cholegau. Ar y cyd â’r Tîm Cynnydd, byddwch chi’n cefnogi’r gwaith o gynnal cronfa ddata gynhwysfawr o gysylltiadau a rhyngweithiadau â phobl ifanc yn ein meddalwedd CRM. Byddwch chi hefyd yn gweithio ar y cyd ag adran agored Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - Agored, i feithrin perthnasoedd mewn lleoliadau lleol, fel eu bod yn barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Brian Weir (Deon y Myfyrwyr) - brian.weir@rwcmd.ac.uk
Pennaeth Gwireddu Golygfeydd
Dyddiad cau: 17/08/26
Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am ymarferydd deinamig a phrofiadol i arwain y Stiwdios Gwireddu Golygfeydd. Bydd deiliad y swydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Drama a bydd yn cael cefnogaeth – a chyfarwyddiadau o bryd i’w gilydd – gan y Pennaeth Cynhyrchu.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o’r tîm arwain Drama a bydd yn gyfrifol, gyda’r Cyfarwyddwr Drama, am ddarparu amgylchedd hyfforddi cynaliadwy a llewyrchus yn ein Stiwdios Gwireddu Golygfeydd yn Llanisien, lle gall myfyrwyr ddatblygu eu crefft a’u celfyddyd. Bydd y Pennaeth Gwireddu Golygfeydd yn cefnogi Arweinwyr Cyrsiau yn Llanisien i greu cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin rhagoriaeth dechnegol, eu herio i fod yn chwilfrydig ac yn gydweithredol, a chefnogi ymgysylltiad ystyrlon â’r gymuned a’r proffesiwn yn ehangach.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol sylweddol o wireddu golygfeydd, ac awydd brwd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ac ymarferwyr theatr. Hefyd, profiad o addysgu a/neu hyfforddi, ynghyd â phrofiad o reoli llinell ac arwain, fel y gall gefnogi uchelgais y Coleg i sicrhau bod y gwaith gwireddu golygfeydd yn adlewyrchu ac yn llywio ymarfer proffesiynol arloesol.
O dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Drama a’r Pennaeth Cynhyrchu, bydd y Pennaeth Gwireddu Golygfeydd yn arwain ac yn datblygu tîm o diwtoriaid ac ymarferwyr medrus iawn ar ein campws yn Llanisien ac yn cefnogi arweinwyr cyrsiau i gyfrannu at ddatblygu’r cwricwlwm a gweithgarwch cynhyrchu. Bydd yn cydweithio â’r holl gydweithwyr ledled y Coleg a phartneriaid proffesiynol i gefnogi a hybu enw da’r Coleg am addysg broffesiynol arloesol ac ymdrochol mewn cerddoriaeth, dylunio a drama.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyrwyddo gweledigaeth a gwerthoedd y Coleg ac yn eiriol drostynt. Bydd y rhan fwyaf o amser deiliad y swydd yn cael ei dreulio yn y Stiwdios Gwireddu Golygfeydd yn Llanisien, gyda gwaith ychwanegol yn cael ei wneud ar draws campysau Heol y Gogledd a’r Hen Lyfrgell, yn ogystal ag mewn lleoliadau allanol yn ôl yr angen.
Mae hon yn swydd amser llawn. Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Dewch i ddarganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.



