top of page

Taith Cyffwrdd - Making Merrie

  • cerys35
  • Mar 18
  • 1 min read

Updated: Mar 20

Awdur: Galeri


15:00 - Dydd Gwener, 28 Mawrth


Rydym yn gyffrous i’ch gwahodd i Daith Gyffwrdd arbennig o amgylch arddangosfa Lewis Prosser o wisgoedd basged wedi’u gwehyddu. Mae'r digwyddiad hwn yn ymwneud â chyffwrdd, archwilio, a chwarae gyda'r basgedi mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar!


Beth i'w Ddisgwyl:


  • Taith Dywys: Bydd Lewis yn eich tywys o amgylch yr arddangosfa ac yn siarad am y basgedi. Byddwch yn gallu eu harchwilio mewn ffordd hwyliog ac ymarferol.

  • Trio ar ac Orymdaith Bach: Byddwch yn cael wisgo y fasgedi ac yna cymryd rhan mewn gorymdaith fach y tu allan, gan gerdded o amgylch ardal y doc tra'n gwisgo'r basgedi.

  • Gweithgareddau Gwehyddu: Os hoffech chi gael man tawelach, bydd ystafell lle gallwch chi fwynhau gwehyddu ar eich cyflymder eich hun.


Nodiadau Pwysig:


  • Dewch â het wlanog i'w gwisgo i gadw'ch gwallt yn ddiogel o'r basgedi yn ystod yr orymdaith.

  • Bydd staff yn bresennol i helpu a gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n gyfforddus.


Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i fod yn gefnogol ac yn hygyrch. Os ydych fel arfer yn cael cymorth mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd neu wrth fynychu gweithdai, dewch â pherson cymorth gyda chi. Bydd yr artist a’r cynorthwyydd yno i arwain y grŵp, ond efallai na fyddant yn gallu darparu cymorth un-i-un i’r holl gyfranogwyr.


Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page