30 Mylnedd o'r DDA: Parti Pen-blwydd - Being Human Festival
- cerys35
- Oct 13
- 1 min read
Dydd Sadwrn Tachwedd 8
1 - 3yp
Tocynnau yma
Gweithdy creadigol 30 Mlynedd o'r DDA.
Ymunwch â ni am ddathliad creadigol i nodi 30 mlynedd o'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA). Mae'r gweithdy hwn, dan arweiniad artistiaid ac ymchwilwyr anabl, yn anrhydeddu'r gweithredu a arweiniodd at y DDA ac yn myfyrio ar ei hetifeddiaeth a chynnydd hawliau anabledd ers 1995.
Mae'r digwyddiad yn dechrau gyda chyflwyniad byr i'r DDA a hanes gweithredu dros anabledd yn y DU, gyda gweithdy creadigol i ddilyn yn gwneud baneri a phlacardiau ar themâu anabledd, cynhwysiant a phrotest. Bydd unigolion yn cael eu cefnogi gan hwyluswyr y gweithdy.
Bydd dathliad pen-blwydd ar gyfer y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn dilyn - gyda cherddoriaeth, cacen, a chyswllt cymunedol. Gallwch chi gadw eich lle yma .
Cefnogir y digwyddiad gan ymchwil o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd ac mae'n tynnu ar waith sydd ar ddod gan yr hanesydd, Yr Athro David Turner (Disability: A History of Resistance, The Bodley Head / Vintage Books).
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Bod yn Ddynol, gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, a gynhelir rhwng 6 a 15 Tachwedd 2025. Mae’n cael ei harwain gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, gyda chefnogaeth hael gan Research England mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Am ragor o wybodaeth ewch i beinghumanfestival.org.



